Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Mae’r iaith wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd i erioed, er nad oeddwn i’n gallu ei siarad hi...

Mae’r iaith wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd i erioed, er nad oeddwn i’n gallu ei siarad hi...

Cafodd Dai Pitman ei eni ym Maerdy, Rhondda Fach, ond mae’n byw ym Mhontypridd ers dros 20 mlynedd.

Mae Dai yn dysgu Cymraeg, ac yn ddiweddar, aeth ar gwrs preswyl yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, wedi ei drefnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cawson ni air â Dai am ei daith yn dysgu Cymraeg...

Pam gwnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?

Roedd fy nhad-cu a fy modryb yn siarad Cymraeg, a fy mam-gu yn dod o Feddgelert. Mae fy mab a merch yn siarad Cymraeg gan eu bod wedi cael addysg gyfrwng Cymraeg. 

Felly, mae’r iaith wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd i erioed, er nad oeddwn i’n gallu ei siarad hi fy hun.

Ble wyt ti’n dysgu Cymraeg?

Dw i’n dysgu mewn dosbarth ym Mhrifysgol Trefforest gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Genedlaethol. Bydda i’n cychwyn lefel Uwch nesa.

Wyt ti’n siarad Cymraeg tu allan i’r dosbarth?

Ydw - dw i’n hoff iawn o fynd i Glwb y Bont ym Mhontypridd ac mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg yno. Dw i hefyd yn hoffi mynd i’r Bore Coffi yn Amgueddfa Pontypridd ar fore dydd Iau i sgwrsio yn Gymraeg.

Rwyt ti wedi bod ar gwrs preswyl yng Nglan-llyn yn ddiweddar – sut brofiad oedd hynny?

Eleni oedd yr ail waith i mi fynd i Wersyll Glan-llyn ar gwrs Dysgu Cymraeg. Dw i’n hoffi cyfarfod pobl eraill sy’n dysgu Cymraeg, a hefyd yn hoffi mynd i’r dafarn leol i sgwrsio  â phobl ardal Y Bala. Mae fy Nghymraeg i’n gwella llawer ar ôl peint neu ddau!

Mae hefyd yn braf cael mynd i wneud gweithgareddau ar y llyn rhwng y gwersi Cymraeg.

Est ti i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd?

Do, wir – ro’n i yn stiwardio yn yr Eisteddfod yng nghefn llwyfan y pafiliwn. Gwnes i ddweud brawddegau fel ‘trowch i’r chwith’, ‘syth ymlaen’, ‘toiled trwy’r drws yna’ yn aml iawn yn ystod yr wythnos!

Roedd hi’n hyfryd iawn croesawu yr Eisteddfod i Bontypridd a chael cyfarfod pobl o bob cwr o Gymru.  

Os hoffech chi fynd ar gwrs preswyl Dysgu Cymraeg yng Nglan-llyn fel Dai, cadwch olwg ar ein gwefan.  Mae’r cwrs yn cael ei gynnal 1-3 Mai y flwyddyn nesa.