1. O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n wreiddiol o Ddeiniolen, pentref a dyfodd yn sgil y diwydiant chwarelyddol, ond dw i bellach yn byw yng Nghaerdydd.
2. Sut wnest ti ddechrau gweithio yn y maes treftadaeth?
Nes i astudio MA mewn Astudiaethau Gwerin, cwrs oedd yn cael ei ddysgu ar y cyd gan Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Taniodd hyn fy mrwdfrydedd o ran amgueddfeydd, ac wedi cyfnod o chwe mis yn gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn ymchwilio i hanes cymdeithasol tai Fron Haul, cefais swydd fel curadur yn Sain Ffagan, a dyna lle rydw i o hyd!
3. Beth yw’r peth gorau am dy waith?
Mae pob diwrnod yn hollol wahanol a dwi’n mwynhau gweithio gyda phobl – o blant ysgol, myfyrwyr, ymchwilwyr ac artisiaid, i grwpiau cymdeithasol a gwirfoddolwyr, gan roi mynediad iddynt i’r casgliadau; o’r gwrthrych lleiaf i’r adeiladau hanesyddol eu hunain, a’u gweld yn creu eu dehongliadau eu hunain ac yn defnyddio’r casgliadau yn greadigol.
4. Beth yw dy hoff adeilad/gwrthrych o blith safleoedd yr Amgueddfa, a pham?
Mae rhes Fron Haul yn yr Amgueddfa Lechi yn agos iawn at fy ngalon gan mai dyma’r oedd yr adeiladu cyntaf i mi eu hymchwilio a’u dodrefnu yn fy nghyrfa amgueddfaol. Dw i hefyd wrth fy modd gyda Llainfadyn, tyddyn sydd wedi ei ail-leoli o Rostryfan i Sain Ffagan.
5. Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn fy ngwaith, gyda fy ffrindiau ac ar yr aelwyd gyda fy nheulu.
6. Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Dw i’n hoffi treulio amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau.
Fy nghas beth yw gwlithod (slugs), roedda nhw’n bla yn un o’r tai ro ni’n byw ynddo yn ystod fy nyddiau coleg, a dw i’n eu casáu ers hynny!
7. Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Dw i’n caru bod allan yn yr awyr agored, ac yn mwynhau mynd i gerdded gyda’r teulu, ac yn edrych ymlaen i gael gwersylla unwaith i’r tywydd gynhesu.
8. Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg?
A finna wedi fy magu yn ardal y chwareli, un o’m hoff lyfrau Cymraeg yw Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard.
9. Beth yw dy hoff air Cymraeg?
‘Mwddrwg’ (Mischievous one)
10. Oes gyda ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
I beidio bod ofn siarad Cymraeg, hyd yn oed os mai ambell air rydych yn ei ddweud. Mae pawb yn gefnogol, ac yn barod i’ch helpu.
11. Disgrifia dy hun mewn tri gair
Caredig, chwilfrydig, cyfeillgar.