Cafodd sgwrs ar hap yn ystod gêm bêl-droed i blant yn y Gilfach Goch yn Rhondda Cynon Taf, dros 10 mlynedd yn ôl effaith fawr ar fywyd Marie David-Jones gan newid trywydd ei gyrfa yn llwyr.
Yn wreiddiol o bentref cyfagos Tonyrefail, penderfynodd Marie ddysgu Cymraeg ar ôl trafod gyda ffrind yn ystod gêm bêl-droed eu plant ac fe ymunodd y ddwy â chwrs i ddechreuwyr gyda'i gilydd yn fuan wedi hynny.
Ar ôl parhau i ddysgu, mae Marie bellach yn dilyn cwrs Uwch i ddysgwyr profiadol gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg, Pentre’r Eglwys.
Mae Marie wedi gweithio mewn swyddfa yn y gorffennol ond roedd yn fam lawn amser yn 2017 pan welodd hysbyseb swydd ar Facebook am Swyddog Gweinyddol gyda Dysgu Cymraeg y Fro. Roedd y gallu i siarad Cymraeg yn un o ofynion y swydd a gyda’i sgiliau Cymraeg newydd yn hwb iddi, penderfynodd Marie fynd amdani. Pan gafodd ei phenodi, roedd wrth ei bodd.
Eglurodd Marie “Dw i wedi bod â diddordeb yn yr iaith Gymraeg erioed. Fe ddechreuodd fy niddordeb pan oeddwn yn blentyn wrth i mi deithio ar wyliau i wahanol ardaloedd o Gymru gyda fy rhieni a chlywed yr iaith yn cael ei siarad. Roedd fy mam-gu yn gallu siarad tipyn bach o Gymraeg a dw i’n cofio’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yng Nghapel Moriah, Gilfach Goch, felly mae gan y Gymraeg le arbennig yn fy nghalon.”
Mae Marie yn defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i swydd, sy’n rhoi cyfle gwych iddi ymarfer yr iaith.
“Dw i wrth fy modd yn cyfarfod dysgwyr eraill a theimlo’n rhan o’r tîm. Dw i’n ymarfer fy Nghymraeg bob dydd yn y gwaith a dw i’n mwynhau mynychu cyrsiau fel ‘Llafar a Llên’ sydd wedi agor drysau i mi i fyd newydd o ddiwylliant.”
Yn rhan o’i rôl, mae Marie yn mwynhau trefnu digwyddiadau Cymraeg ar gyfer dysgwyr fel clwb coginio, sesiynau crefftau, gigs cerddoriaeth a llawer mwy. Mae hi’n teimlo bod gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi her newydd iddi ac yn cadw’r swydd yn ddiddorol ac yn amrywiol.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried dysgu Cymraeg yw, os dych chi’n teimlo’n swil, ewch â ffrind gyda chi i’r dosbarth - gallwch ddysgu gyda’ch gilydd. Mae grwpiau’n gyfeillgar iawn ac mae gan bawb sy’n mynychu'r un nod felly ewch amdani!”