Mae’r tri a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, gan gynnwys yr enillydd, Francesca Elena Sciarrillo, yn dysgu Cymraeg gyda darparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Francesca, sy’n dod o’r Wyddgrug, yn mynychu cyrsiau Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei weinyddu ar ran y Ganolfan gan Goleg Cambria.
Daw teulu Francesca i gyd o’r Eidal, a hi yw’r unig un o’i theulu sy’n medru’r Gymraeg. Dechreuodd ddefnyddio’r Gymraeg yn ei bywyd bob dydd wrth astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.
Ar hyn o bryd mae Francesca’n gweithio fel prentis graddedig marchnata i adran lyfrgelloedd a hamdden Cyngor Sir y Fflint, ac yn bachu ar bob cyfle i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn ei gwaith. Ei huchelgais yw ysgrifennu hanes taith ei theulu o’r Eidal i Gymru yn y Gymraeg.
Mae Jack Wilson, a ddaeth yn ail, yn dysgu’r iaith gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor.
Clywed technegwyr, darlithwyr a myfyrwyr eraill yn y Brifysgol yn defnyddio’r iaith wnaeth ei ysbrydoli i fynd ati i ddysgu’r iaith.
Mae’n bwriadu sefyll arholiad Uwch Cymraeg i Oedolion CBAC yr haf yma. Bwriad Jack ydy aros yng Nghymru i weithio ym maes Cemeg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Molly Evans, a ddaeth yn drydedd, hefyd yn dysgu gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain. Ieithoedd yw pwnc Molly, sy’n 22 oed o Swydd Caer. Roedd ei thaid, o Faesteg, ac yn siarad ychydig o Gymraeg. Llynedd, tra oedd hi’n gweithio fel athrawes iaith Saesneg yn Yr Almaen, dysgodd ddosbarth am yr iaith Gymraeg i ehangu gwybodaeth ei chydweithwyr am ieithoedd a diwylliannau eraill sy’n bodoli ym Mhrydain.
Ei bwriad yw cwblhau cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Ieithoedd Modern drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn medru ysbrydoli Cymry ifanc i gymryd diddordeb mewn ieithoedd.
Llongyfarchiadau mawr i’r tri a phob dymuniad da i’r dyfodol!
Llun isod (o'r chwith i'r dde): Molly Evans, Jack Wilson, Francesca Sciarrillo.