Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg

Mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg

Mae data swyddogol diweddaraf y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a gyhoeddwyd heddiw (27 Mawrth 2025), yn dangos bod dros 18,000 o unigolion yn dysgu Cymraeg – y nifer uchaf o ddysgwyr ers i’r Ganolfan gymryd cyfrifoldeb dros y maes yn 2016.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, gwnaeth 18,330 o bobl gwblhau cyrsiau’r Ganolfan – cynnydd o 8% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 45% o gymharu â’r data swyddogol cyntaf a gyhoeddwyd gan y Ganolfan ar gyfer 2017-2018, sef 12,700.

Mae’r cynnydd yn y dysgwyr yn adlewyrchu datblygiadau’r maes.  Yn ogystal â’r cyrsiau wyneb yn wyneb a rhithiol yn y gymuned, mae cynlluniau arloesol newydd bellach ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys y sector Iechyd a Gofal a phobl ifanc.

Mae twf ar raddfa fawr yn y maes Iechyd a Gofal, gyda thiwtor Dysgu Cymraeg wedi’i leoli ym mhob bwrdd iechyd, cynlluniau penodol ar gyfer arbenigeddau megis Gofal Lliniarol a Diwedd Oes a Seiciatreg, cyrsiau hunan-astudio byr a chyrsiau Codi Hyder.

Mae data 2023-2024 yn dangos bod mwy o bobl ifanc 16-25 oed yn dysgu Cymraeg.  Fe gwblhaodd 2,635 o ddysgwyr ifanc gyrsiau’r Ganolfan yn 2023-2024, cynnydd o 21% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 274% o gymharu â’r cyhoeddiad oedran cyntaf yn 2018-2019.

llun

Mae’r mwyafrif helaeth o’r holl ddysgwyr (84%) o fewn yr ystod oedran gweithio, 16-64 oed.

Mae’r mwyafrif o’r dysgwyr (76%) yn dilyn cyrsiau o dan arweiniad tiwtor, boed wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, ac mae cynnydd yn niferoedd y dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau ar lefelau Canolradd ac Uwch, yn ogystal â’r cyrsiau i ddechreuwyr.

Meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg:  “Mae bwrlwm y sector Dysgu Cymraeg a’r twf yn y niferoedd sy’n dysgu’r iaith yn ysbrydoliaeth, ac yn destun balchder i ni gyd.

“Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn bartner strategol allweddol i Lywodraeth Cymru ers iddi gael ei sefydlu, ac mae adolygiadau cadarnhaol gan Estyn wedi cydnabod arbenigedd y Ganolfan yn y maes dysgu a chaffael iaith. 

“Mae’r Ganolfan wedi arwain ar newidiadau mawr yn y sector, gan gyflwyno cwricwlwm wedi’i alinio â fframwaith Ewrop, y CEFR, a chynllunio ac ymestyn ei gweithgareddau er mwyn croesawu cynulleidfaoedd newydd at y Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae’r Ganolfan yn gwneud cyfraniad hollbwysig wrth normaleiddio defnydd o’r iaith a chefnogi’r uchelgais i gynyddu’r niferoedd sy’n siarad, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.”

llun

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae pawb yn y sector Dysgu Cymraeg yn falch iawn o’r data diweddaraf yma, sy’n adrodd ar stori o dwf ac o lwyddiant, a hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr, tiwtoriaid a’r gweithlu ehangach. 

“Hoffwn hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru, sydd wedi cefnogi’r Ganolfan wrth iddi ehangu ei gwasanaethau a chreu partneriaethau effeithiol sydd wedi arwain at gynlluniau dysgu hyblyg ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.  Mae’r datblygiadau cyffrous yma wedi galluogi’r Ganolfan i groesawu mwy o bobl at y Gymraeg. 

“Wrth galon ein gweithgareddau dysgu, mae arbenigedd dysgu a chaffael iaith y Ganolfan.  Mae’r cwricwlwm Dysgu Cymraeg cenedlaethol, a ddatblygwyd gennym, yn rhoi un llwybr dysgu clir i ddod yn siaradwr Cymraeg.  Mae ein holl gyrsiau yn seiliedig ar y cwricwlwm, ac mae’r data diweddaraf yn adlewyrchu llwyddiant ein model dysgu.

“Mae cynlluniau’r Llywodraeth i gyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg yn mynd i greu cyfleoedd newydd i’r Ganolfan rannu ei harbenigedd â meysydd eraill, a chyfrannu at ffyniant y Gymraeg.  Mae’r gwaith yma wedi dechrau’n barod, gyda’r gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, a’r ddarpariaeth eang ar gyfer y gweithlu addysg, y byddwn yn adrodd arni yn ein data ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

“Mae mwy o bobl yn dysgu Cymraeg, mae mwy yn dysgu ar lefelau uwch, ac mae’r ffrydiau gwaith newydd yn arwain at gynnydd.  Ein nod yw parhau i weithio’n greadigol i gynnig dewis eang o gyfleoedd Dysgu Cymraeg.”

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Ystadegau 2023 - 2024 | Dysgu Cymraeg