Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Mwynhau cerddoriaeth dros y Nadolig

Mwynhau cerddoriaeth dros y Nadolig

Mwynhau cerddoriaeth? Chwilio am gigs Cymraeg dros yr ŵyl? Dyma rai syniadau i chi!

awni?

Mae awni? yn fap rhyngweithiol sy’n dangos yr holl gigs sy’n digwydd ar draws Cymru.

Y cyfan sy angen i chi ei wneud yw dewis dyddiad, a bydd y map yn dangos pa gigs sy’n cael eu cynnal a phryd.

Dilynwch y ddolen i weld pa gigs sy ’mlaen dros y Nadolig: awni?

Cerddoriaeth Gymraeg ar Spotify

Eisiau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg a theimlo ysbryd y Nadolig? Beth am fwynhau rhestr chwarae Nadoligaidd ar Spotify? Dilynwch y ddolen i wrando: Un Seren Nadolig - Miwsig

Mae rhestrau chwarae eraill hefyd ar gael, fel rhan o fenter ‘Dydd Miwsig Cymru’ Llywodraeth Cymru – o gerddoriaeth roc, gwerin, indi, pync, ffync, ac electronig, i hip hop, a mwy! Mae llawer o artistiaid gwych yma yng Nghymru, ac mae gwrando ar gerddoriaeth yn ffordd dda o ymarfer a mwynhau eich Cymraeg. I weld yr holl restrau chwarae, dilynwch y ddolen nesaf: Rhestrau chwarae Miwsig

Am fwy o wybodaeth am Ddydd Miwsig Cymru, dilynwch y ddolen nesaf: Dydd Miwsig Cymru | LLYW.CYMRU

Y Gair a’r Gân – holi Mei Gwynedd

Cerddor cynllun ‘Y Gair a’r Gân’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg yw Mei Gwynedd. Bydd Mei yn mynd ar daith o gwmpas Cymru dros y flwyddyn nesaf yn ymweld â darparwyr cyrsiau’r Ganolfan ac yn rhoi gwledd gerddorol i ddysgwyr a siaradwyr newydd.

Cysylltwch â’ch darparwr lleol am ragor o wybodaeth.

Buon ni’n holi Mei am ei gerddoriaeth. Dilynwch y ddolen nesaf i ddarllen y cyfweliad llawn: Holi Mei Gwynedd