Mwynhau yng Nglan-llyn
Yn ddiweddar, fe gynhaliwyd penwythnos i ddysgwyr yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn ger y Bala. Yn ystod y penwythnos, roedd sesiynau adeiladu tîm, gwersi Cymraeg, noson yn y dafarn yn Llanuwchllyn a gig min nos gyda Bwncath.
Tri o’r bobl ifanc fuodd ar y cwrs oedd Kat Grzegorzek, Ciara Killick a Silvia Cojocaru. Mi gawsom ni sgwrs fach gyda nhw am eu taith iaith.
Helo! O ble dach chi’n dod yn wreiddiol?
Ciara: Ces i fy magu yng Nghaerdydd, ond dw i wedi byw yn yr Alban am 10 mlynedd ar ôl gorffen yn yr ysgol. Mae teulu fy mam yn dod o Iwerddon, ac mae hi a’i theulu yn siarad Gwyddeleg.
Kat: Dw i’n dod yn wreiddiol o dde Lloegr, ger Llundain ond yn byw yn yr Wyddgrug ers 2018.
Silvia: O Rwmania dw i’n dod yn wreiddiol. Gwnes i ddod i Brydain yn 2017 a dw i bellach yn byw yn Sir Faesyfed.
Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Ciara: O’n i eisiau dod nol i Gymru i fyw ac eisiau dysgu Cymraeg er mwyn cael teimlad o berthyn.
Kat: Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg gan fod fy mhartner a’i deulu yn siarad Cymraeg.
Silvia: O’n i eisiau dysgu’r iaith ac roedd fy nghyflogwyr, Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, hefyd yn gefnogol.
Sut brofiad oedd eich gwers gyntaf?!
Ciara: Gwnes i ddechrau dysgu yn ystod y cyfnod clo. Do’n i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl ac mi oedd yn wahanol iawn i wersi Cymraeg yr ysgol! Mi oedd pawb mor barod i helpu a ges i gymaint o hwyl.
Kat: O’n i’n nerfus iawn cyn y wers gyntaf ond erbyn diwedd y wers mi o’n i wedi cael llawer o hwyl ac wrth fy modd. Mae’n braf iawn cael gwersi wyneb-yn-wyneb eto, ar ôl y cyfnod clo, a chael cyfle am sgwrs dros baned.
Silvia: O’n i’n nerfus iawn, yn enwedig gan mod i wedi ymuno mewn dosbarth ar ganol y tymor. Doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl. O’n i’n falch fod strwythur y Gymraeg yn debyg i iaith Rwmania, ac roedd hynny yn helpu. Roedd y tiwtor yn garedig ac yn dda iawn hefyd.
Wnaethoch chi fwynhau’r cwrs yng Ngwersyll Glan-llyn?
Ciara: Un o’r pethau mwyaf anhygoel i mi oedd gweld taflen am wersyll rhyfel Fron Goch yn Siop Awen Meirion yn y Bala. Cafodd fy hen Seanathair (tad-cu mewn Gwyddeleg) ei garcharu yno yn 1916 adeg Gwrthryfel y Pasg. O’n i wedi clywed straeon amdano yn cael ei gludo mewn llong wartheg i Gaergybi ond yn gwybod dim o’r hanes wedyn. Felly mi oedd yn deimlad arbennig bod mor agos i’r lle y treuliodd chwe mis o’i fywyd.
Kat: Gwnes i wir fwynhau popeth ac yn arbennig gig Bwncath a chael sgwrsio gyda phobl leol yn y dafarn. Roedd yn brofiad arbennig cael ein trochi yn yr iaith am benwythnos, tra’n cael hwyl gyda phobl oedd ar yr un lefel dysgu â ni.
Silvia: Roedd pawb arall yn dda iawn ac roedd fy mhen yn troi gyda’r holl eiriau Cymraeg newydd on i wedi eu dysgu erbyn diwedd y penwythnos! Yr uchafbwynt i mi oedd gwrando ar Bwncath ar y nos Wener.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Ciara: I mi, dw i’n teimlo mod i’n crafu’r wyneb ar fyd newydd nad o’n i’n gwybod dim amdano. Does gen i ddim gwreiddiau yng Nghymru ond mae dysgu Cymraeg yn gwneud i deimlo mod i’n perthyn.
Dw i nawr yn gwybod am gerddoriaeth Gymraeg ac wedi cwrdd â phobl fyddwn i byth wedi dod ar eu traws fel arall. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol dros yr haf i fwynhau mwy o gerddoriaeth Gymraeg.
Kat: Y peth gorau i mi ydy cael cyfarfod pobl newydd, siarad iaith newydd a hefyd, y ffaith mod i nawr yn gallu siarad Cymraeg gyda fy mhartner a’i deulu.
Silvia: Y peth dw i’n edrych ymlaen ato fwyaf ydy gallu cynnal sgwrs yn Gymraeg heb orfod meddwl a chyfieithu pob gair cyn siarad.