Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Nefoedd wen! Cyfieithiad Cymraeg o’r llyfr i blant, Matilda, yn ysbrydoli ymchwilydd academaidd o Wlad Pwyl

Nefoedd wen! Cyfieithiad Cymraeg o’r llyfr i blant, Matilda,   yn ysbrydoli ymchwilydd academaidd o Wlad Pwyl

Mae ymchwilydd academaidd o Wlad Pwyl, Joanna Człapa, wedi ei hysbrydoli i wneud ymchwil ar eiriau, ymadroddion a rhegfeydd Cymraeg ar ôl darllen cyfieithiad Cymraeg o’r nofel i blant, Matilda, gan Roald Dahl. 

Roedd Joanna yn barod yn dysgu Cymraeg pan ddadansoddodd gyfieithiad Cymraeg Matilda fel rhan o’i gradd BA yn yr Uned Astudiaethau Ymchwil Celtaidd ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz, Poznań yng ngorllewin Gwlad Pwyl.

Daeth o hyd i ymadroddion fel ‘car diawl’, ‘nefoedd wen’, a’r ‘cythraul bach diflas’, a theimlo’n chwilfrydig am eu hystyr. Roedd yn awyddus i ymchwilio ymhellach i’w defnydd, ac i regfeydd Cymraeg yn ehangach, ond prin oedd yr ymchwil academaidd, yn ôl Joanna.  

Yn ystod Gorffennaf 2025, felly, aeth Joanna i Gaernarfon, ble mae mwy na 80% o’r boblogaeth yn siarad yr iaith, er mwyn cyfweld â siaradwyr Cymraeg am ba regfeydd roedden nhw’n eu defnyddio, a’u hagweddau tuag atynt.  

Dyma’r tro cyntaf iddi wneud gwaith maes yn rhan o’i hymchwil, a chynhaliodd gyfweliadau â pherchnogion siopau a phobl leol ar y stryd trwy gyfrwng y Gymraeg, a theimlo’n gyffrous am allu defnyddio’r iaith.  

Yn gyffredinol, roedd hi’n gweld bod agweddau pobl tuag at regfeydd wedi meddalu, a’u bod yn fwy derbyniol ohonyn nhw, ond bod hyn yn amrywio ar gyfer grwpiau oedran gwahanol. Bydd canlyniadau llawn yr ymchwil yn cael eu cyhoeddi mewn erthygl ymchwil maes o law.  

Mae Joanna erbyn hyn yn dilyn cyrsiau lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Gwent a Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n cael eu trefnu gan Goleg Gwent a Chyngor Sir Penfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae bellach yn astudio gradd MA mewn sosio-ieithyddiaeth, gan edrych ar agweddau tuag at ddefnydd o eiriau a phatrymau wedi’u Seisnigo yn y Gymraeg.

Meddai Joanna, “Ro’n i wastad wedi hoffi straeon am Frenin Arthur a Chwedlau Celtaidd, ac felly penderfynais i ddilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz, lle mae ’na Uned Ymchwil Astudiaethau Celtaidd. Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn y brifysgol, trwy ddilyn cyrsiau rhithiol Dysgu Cymraeg, a syrthio mewn cariad â’r iaith. 

“Ro’n i wrth fy modd â’r eirfa yn Matilda, a gan fy mod i'n berson chwilfrydig, penderfynais fynd ati i wneud ymchwil pellach. Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig edrych ar sut mae pobl yn defnyddio iaith, yn enwedig ieithoedd lleiafrifol. 

“Roedd nifer o gyfranwyr yr ymchwil yng Nghaernarfon yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o gasgliad o regfeydd Cymraeg. Ges i fy synnu i glywed hyn, a chadarnhaodd hyn bwysigrwydd fy ymchwil a pham dw i eisiau ymchwilio ymhellach.” 

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau a’i gwersi Cymraeg, mae Joanna yn mwynhau mynd i sesiynau sgwrsio Cymraeg ar-lein. Mae’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, gwylio S4C, ac mae newydd ddechrau darllen barddoniaeth yn Gymraeg.  

Yn ogystal â’r Bwyleg a’r Gymraeg, mae Joanna hefyd yn siarad Saesneg a Ffrangeg, ac yn gallu deall tipyn o’r Wyddeleg hefyd.