Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gair o groeso

Gair o groeso

Croeso!

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r hanner tymor diwethaf yn dysgu Cymraeg gyda ni. Pob dymuniad da i chi ar gyfer y misoedd nesaf – mae pawb yma i’ch cefnogi chi ar bob cam o’ch taith iaith.

Mae llawer o weithgareddau cyffrous yn ystod y tymor yma. Isod, mae rhai syniadau ar sut gallwch chi ddefnyddio a mwynhau eich Cymraeg.

Pob hwyl gyda’r dysgu,

Dona Lewis
Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Gŵyl Ddarllen Amdani 2026

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’. Bydd yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 2 a 6 Mawrth. Yn rhan o ddathliadau’r ŵyl, ’dyn ni’n cynnal dau ddigwyddiad rhithiol:

Clwb Llyfrau

Caru llyfrau? Bydd cyfle i drafod llyfrau Amdani a holi rhai o’r awduron.

I gofrestru, dilynwch y ddolen: Clwb llyfrau

Noson yng nghwmni cylchgrawn Cara

Mwynhau darllen cylchgronau? Dewch i fwynhau noson yng nghwmni cylchgrawn Cara.

I gofrestru, dilynwch y ddolen: Noson yng nghwmni cylchgrawn Cara

Cynnig arbennig – tanysgrifiadau Lingo Newydd a chylchgrawn Golwg

Yn rhan o ddathliadau’r ŵyl, bydd cynigion arbennig yn cael eu cynnig i ddysgwyr ar gyfer Lingo Newydd a chylchgrawn Golwg:

Lingo Newydd

Eisiau tanysgrifio i Lingo Newydd a chael 10% i ffwrdd?
Defnyddia’r cod: LINGOAMDANI
Tanysgrifiwch i Lingo Newydd

Cylchgrawn Golwg

Eisiau tanysgrifio i gylchgrawn Golwg a chael tri mis am bris un?
Defnyddia’r cod: GOLWG3AM1
Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+

Dweud eich Dweud

Pwrpas holiadur Dweud eich Dweud yw casglu barn ein dysgwyr.

I lenwi’r holiadur, dilynwch y ddolen: Holiadur Dweud eich Dweud 2026

Defnyddio eich Cymraeg

Eisiau ymarfer a mwynhau eich Cymraeg y tu allan i’r gwersi? Mae llawer o syniadau ar ein tudalen ‘Defnyddio eich Cymraeg’ - dilynwch y ddolen i weld be sy ar gael: Defnyddio eich Cymraeg

Gemau’r Chwe Gwlad

Dych chi’n mwynhau rygbi? Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi dechrau ac mae adnoddau gyda ni ar gyfer cefnogwyr a chwaraewyr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen: Undeb Rygbi Cymru 

Cronfa

Mae’n bosib cael help ariannol gyda chostau gofal plant, adnoddau a theithio. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: Cronfa Ariannol

Cyswllt

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar swyddfa@dysgucymraeg.cymru gyda unrhyw gwestiynau neu sylwadau.

Cofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, a phob hwyl gyda’r dysgu.