Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

O’r Gantoneg i’r Gymraeg – taith iaith Israel Lai

O’r Gantoneg i’r Gymraeg – taith iaith Israel Lai

Mae Israel Lai, cyfansoddwr o Hong Kong, sy’n barod yn siarad wyth iaith, bellach yn siarad Cymraeg yn hyderus ar ôl tair blynedd o ddysgu.

Er nad oedd wedi clywed am Gymru na’r Gymraeg cyn symud i Brydain yn 2018, mae wedi dysgu’r iaith yn llwyddiannus gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Symudodd Israel i Brydain i astudio gradd meistr mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Rhydychen.  Ei famiaith yw Cantoneg, a chafodd ei addysg trwy gyfrwng y Saesneg.  Roedd wastad wrth ei fodd â ieithoedd, a daeth ar draws yr ieithoedd Celtaidd am y tro cyntaf yn y brifysgol.

“Dw i’n caru ieithoedd,” eglura, “felly pan glywais am yr ieithoedd Celtaidd, roedd gen i ddiddordeb.  Ro’n nhw’n wahanol i’r ieithoedd eraill ro’n i’n eu siarad.  Gwnes i ymchwil i weld pa un o’r ieithoedd oedd yn cael ei siarad fwyaf, a gweld mai’r Gymraeg oedd honno.”

Ar ben hynny, doedd Israel erioed wedi dysgu iaith leiafrifol o’r blaen, ac roedd eisiau gwybod mwy am gefndir hanesyddol y Gymraeg.  Dechreuodd ddysgu gyda Duolingo, ac yna symud yn fuan at ddosbarthiadau Dysgu Cymraeg.

Mae Israel yn rhannu ei daith iaith ar ei sianel YouTube, Rhapsody in Lingo, sydd â dros 13,700 o danysgrifwyr.  Er iddo ddechrau fel blog teithio, mae’r sianel bellach yn canolbwyntio ar ieithoedd, gyda’r Gymraeg yn rhan amlwg.  Mae un fideo – sy’n dangos ei daith o gwmpas gogledd Cymru gyda’i rieni – wedi cael dros 400,000 o wylwyr.

Meddai Israel, “Nid fy mwriad yw brolio faint o ieithoedd dw i’n eu siarad ond yn hytrach trafod ieithoedd a chwalu rhagdybiaethau.  Dw i’n hoffi dogfennu fy nhaith yn dysgu gwahanol ieithoedd a’r heriau dw i’n eu hwynebu.”

Mae Israel yn credu bod y ffaith ei fod e’n gerddor yn helpu wrth ddysgu ieithoedd. 

“Mae cerddoriaeth yn fy helpu i ddysgu ieithoedd, yn sicr,” meddai. “Dw i’n gallu efelychu seiniau ac acenion – dw i’n clywed yr alaw mewn iaith ac yn ymarfer ac ymarfer y seiniau newydd er mwyn creu’r synau cywir yn fy ngheg.”

Mae Israel hefyd wedi dewis canolbwyntio ar un acen benodol wrth siarad.  Meddai: “Dw i’n credu ei bod yn bwysig setlo ar un acen tra’n dysgu iaith – a gan fod gen i ffrind o Ben Llŷn, dw i wedi setlo ar yr acen honno.”

Mae Israel bellach yn byw ym Manceinion ac yn astudio am ddoethuriaeth mewn cyfansoddiad.  Mae hefyd yn trafod prosiectau gyda beirdd ac artistiaid Cymraeg, gyda’r gobaith o gyd-gyfansoddi cerddoriaeth Gymraeg yn y dyfodol.