Papur bro
Beth ydy papur bro?
Mae papur bro yn bapur newydd ar gyfer ardal leol. Fel arfer, gwirfoddolwyr sy’n ysgrifennu’r papur bro. Mae pob un yn wahanol, ond mae fel arfer yn cynnwys storïau a lluniau ysgolion a grwpiau lleol, hanes pobl ddiddorol, ryseitiau coginio a phosau.
Ydy papur bro yn addas i ddysgwyr?
Ydy, mae papur bro yn ffordd dda i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol, ac yn rhoi cyfle i chi fwynhau defnyddio eich Cymraeg.
Oes yna bapur bro yn fy ardal i?
Mae yna lawer o bapurau bro ar draws Cymru. Mae gwefan papuraubro.cymru yn cynnwys map rhyngweithiol. Chwiliwch yno i weld pa bapur bro sy yn eich ardal chi.
Mwy am… Papur Dre
Glyn Tomos ydy Golygydd Papur Dre – sef papur bro tref Caernarfon.
Beth sy yn Papur Dre?
Dan ni’n ceisio cynnwys y storïau mwyaf diweddar a diddorol am bobl Caernarfon. Mae newyddion gan ysgolion cynradd ac uwchradd; chwaraeon o bob math; colofnau diddorol, croesair a storïau hanesyddol am y dre. Mae’n bapur lliwgar i sefyll allan ar silffoedd y siopau i annog pobl i’w brynu.
Faint o wirfoddolwyr sy’n gweithio arno?
Mae tua 40 o bobl rhwng pawb.
Beth ydy’r peth gorau am fod yn rhan o dîm y papur bro?
Y peth gorau ydy ein bod yn creu papur misol sy’n edrych yn dda ac mae rhywbeth i bawb. Mae’n braf clywed am bobl sy’n ei brynu, yn ei ddarllen ac yn cael pleser o’r mwyaf yn gwneud hynny.
Faint mae’n ei gostio?
50c.
Pa mor aml mae o allan?
Bob mis ond ddim ym mis Awst a Medi.
Ble mae pobl yn gallu ei brynu?
Yn y siopau lleol a dan ni hefyd yn ei ddosbarthu i’r drws os oes angen.