Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr yn sgil partneriaeth newydd rhwng
SaySomethinginWelsh a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Bydd cynllun partneriaeth newydd rhwng SaySomethinginWelsh (SSIW) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn sicrhau hyd yn oed fwy o gyfleoedd i gefnogi dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio a mwynhau’r iaith.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, yn caniatáu rhannu adnoddau ac arbenigedd, er mwyn ategu’r cyfleoedd dysgu. Bydd disgownt ar gyrsiau’r ddau sefydliad hefyd ar gael i ddysgwyr.
Cynigir disgownt i ddysgwyr y Ganolfan i ddefnyddio adnoddau dysgu SSIW, sy wedi datblygu rhaglen addysgu arloesol gyda’r pwyslais ar wersi fideo neu sain dyddiol. Bydd cyfle i ddysgwyr ymuno â chymuned rithiol SSIW hefyd, lle mae modd sgwrsio gyda dysgwyr eraill.
Cynigir disgownt i ddysgwyr SSIW ar gyrsiau’r Ganolfan, sy’n gweithio gydag 11 darparwr cwrs i gynnig cyrsiau o bell, ar-lein a chymunedol. Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu dros 1500 o adnoddau dysgu digidol, gan gynnwys cyrsiau blasu ar-lein a sesiynau Facebook byw. Mae cyfleoedd di-ri i’w dysgwyr ymarfer y Gymraeg yn anffurfiol hefyd.
Bydd cyfleoedd pellach i’r ddau sefydliad rannu arferion da a chyd-drafod datblygiadau technolegol.
Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:
“Mae’r cyfnod diwethaf wedi dangos bod cydweithio agos er mwyn cefnogi ein gilydd yn bwysicach nag erioed, a dw i’n falch iawn gweld dau sefydliad sy’n chwarae rôl mor bwysig wrth hybu’r Gymraeg yn dod at ei gilydd i gynnig cyfleoedd ychwanegol i ddysgwyr.
“Hoffwn ddymuno’n dda i SSIW a’r Ganolfan ac i’r gymuned dysgu Cymraeg yn gyffredinol, yn enwedig y miloedd mwy o oedolion hynny sy wedi dechrau dysgu’r iaith yn ddigidol yn ddiweddar.”
Meddai Aran Jones, cyd sylfaenydd SaySomethinginWelsh: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn ac mae cydweithio fel hyn yn sicr o fod o fudd i ddysgwyr. Mae’r ystod eang o arbenigedd sydd ar gael drwy’r berthynas newydd yma yn sicrhau fod unrhyw un sydd am ddysgu Cymraeg yn mynd i gael mynediad rhwydd i gyrsiau amrywiol a chefnogaeth hyblyg sydd yn gweddu i’w hanghenion”.
Meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae cefnogi dysgwyr i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhan hollbwysig o’n gwaith fel Canolfan a bydd y bartneriaeth newydd hon yn sicrhau mwy o gyfleoedd i wneud hynny.
“Mae rhoi dewis i ddysgwyr, o ran pryd a sut i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg, hefyd yn allweddol, a bydd cynnig mynediad at adnoddau SSIW yn adeiladu ar y ddarpariaeth ddigidol gyffrous sy eisoes ar gael gan y Ganolfan.
“’Dyn ni wedi cydweithio gyda SSIW ers sefydlu’r Ganolfan yn 2016 ac edrychwn ymlaen at ffurfioli’r berthynas adeiladol sy eisoes rhyngom gyda’r cynllun newydd hwn.”
Diwedd
2.6.20
- Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg i oedolion.
- Ewch i https://www.saysomethingin.com/welsh i gael mwy o wybodaeth am SaySomethinginWelsh.