Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Penodi Tiwtor Dysgu Cymraeg i gefnogi S4C a’r sector cynhyrchu

Penodi Tiwtor Dysgu Cymraeg i gefnogi S4C a’r sector cynhyrchu

Disgrifiad llun: Digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn sôn am y datblygiad newydd a'r bartneriaeth rhwng S4C a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Bydd tiwtor Dysgu Cymraeg yn cael ei benodi i gefnogi cyflwynwyr, cyfranwyr a gweithwyr y tu ôl i’r camera, ymhlith eraill, fel rhan o’r bartneriaeth rhwng S4C a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd y tiwtor newydd – sydd i’w benodi erbyn mis Medi – ar gael i weithio ar set, ar leoliad, ac mewn swyddfeydd, gan gynnig cefnogaeth arbenigol, ymarferol i bawb sy’n ymwneud â chynhyrchu neu gyfrannu at gynnwys y sianel.

Mae cynlluniau tebyg eisoes wedi eu cynnal yn llwyddiannus gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gyda thiwtor Dysgu Cymraeg yn cefnogi gweithlu Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam, Undeb Rygbu Cymru a’r Urdd.

Mae S4C a’r Ganolfan yn cydweithio’n agos ers sawl blwyddyn i greu cynnwys sy’n addas ar gyfer pobl sy’n dysgu’r Gymraeg.  Mae’r sianel yn cynnig isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar raglenni ar lwyfan S4C Clic, ac yn rhannu cynnwys ar gyfer siaradwyr newydd ar sawl llwyfan arall gan gynnwys YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol.

Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae’r berthynas â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn un allweddol bwysig i S4C, gan sicrhau bod S4C i bawb wrth i ni groesawu a chefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg o bob cefndir, beth bynnag fo’u gallu ieithyddol.

“Mae llwyddiant diweddar cyfres boblogaidd Y Llais, a ddenodd cynulleidfaoedd iau ledled Cymru, yn dangos pwysigrwydd rhoi llwyfan a chefnogaeth i ddysgwyr a siaradwyr newydd.  Bydd cael tiwtor penodol i weithio ar raglenni S4C yn codi hyder gweithwyr y sector cynhyrchu, yn ogystal â chyfranwyr ar y sgrin.

“Bydd hefyd yn golygu bod modd i ni ddenu rhagor o dalent i greu rhaglenni S4C, tra’n cadw’r Gymraeg fel iaith waith naturiol ar setiau cynhyrchu.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr a siaradwyr newydd i ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg yn hollbwysig, p’un ai bod hynny’n gwylio rhaglenni S4C, neu’n cyfrannu at y rhaglenni hynny.

“Dan ni’n falch iawn o’r cydweithio agos ag S4C, a’r cyfle yma i gynnig cefnogaeth ychwanegol i gryfhau a chynyddu defnydd o’r Gymraeg ym myd y cyfryngau.”