Dewch i dreulio penwythnos gyda'r teulu yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog rhwng 1 a 3 Mawrth 2019. Bydd cyfle i chi ddysgu Cymraeg, mwynhau gweithgareddau'r gwersyll yn Llangrannog, sgwrsio gyda dysgwyr a theuluoedd eraill a gwneud ffrindiau newydd.
Os hoffech chi archebu lle mae'r ffurflen archebu ar gael yma neu mae croeso i chi gysylltu drwy ffonio 0800 8766975 / 01970 622236 neu anfon e bost at dysgucymraeg@aber.ac.uk / learnwelsh@aber.ac.uk