Mae perchennog siop lyfrau sy’n wreiddiol o Swydd Gaerhirfryn (Lancashire) wedi dechrau defnyddio’r Gymraeg wrth werthu llyfrau yn ei siop yn Nhrefaldwyn, Powys.
Mae Barry Lord, sy’n byw ac yn gweithio yn Nhrefaldwyn, wedi bod yn mynychu dosbarth wythnosol yn y Trallwng ers pedair blynedd gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Meddai Barry, “Agorais i siop lyfrau yn Nhrefaldwyn cyn y Nadolig 2018. Dw i’n hoffi medru cyfarch ymwelwyr â’r siop a chael sgyrsiau efo nhw yn y Gymraeg. Er mwyn sicrhau fod pobl yn gwybod mod i’n dysgu ac yn siarad yr iaith, dw i newydd gynhyrchu arwydd i arddangos ar y cownter er mwyn annog pobl i gyfathrebu â fi yn y Gymraeg.”
Penderfynodd Barry ddysgu Cymraeg wedi cael ei ysbrydoli ar ei ymweliad cyntaf â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, Sir Drefaldwyn yn 2015.
Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn medru cyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf. Dylai pobl geisio dysgu’r iaith leol pan maen nhw’n mynd i fyw mewn gwlad wahanol er mwyn medru cymryd rhan ym mywyd yr ardal a gwerthfawrogi ei hanes a’i diwylliant.
Barry Lord
Derbyniodd Barry dlws coffa Basil Davies y llynedd am y marciau uchaf yng Nghymru yn yr arholiad Dysgu Cymraeg lefel Sylfaen. Erbyn hyn mae wedi cwblhau’r cwrs Canolradd, ac yn bwriadu treulio mis ar gwrs haf ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cychwyn astudio ar y cwrs lefel Uwch yn y Trallwng ym mis Medi. Mae hefyd wedi treulio tair wythnos yn Nant Gwrtheyrn ar gyrsiau Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Ychwanegodd Barry, “Mae dysgu Cymraeg wedi fy helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â diwylliant, llenyddiaeth a hanes Cymru, ac wedi fy ngalluogi i ddod i adnabod ffrindiau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg ar yr un pryd.
“Y peth mwyaf pwysig yn fy marn i wrth ddysgu Cymraeg yw i ymuno â chwrs dysgu Cymraeg, ac i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’ch dosbarthiadau mor aml â phosib.”
Mae Barry wrth ei fodd yn mynychu clwb darllen sy’n cyfarfod yn Nhrefaldwyn lle mae cyfle i drafod llyfrau Cymraeg a chymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg eraill. Mae hefyd wedi canmol y budd y mae wedi ei gael o fod yn rhan o gynllun ‘Siarad’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cynllun gwirfoddol sy’n paru dysgwyr gyda siaradwyr Cymraeg.
“Cymrais i a’m partner yn y cynllun, Bernard, ran mewn taith gerdded a drefnwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd. Buon ni hefyd mewn noson lawen, ac mewn cylch darllen gyda’n gilydd.”
Ychwanegodd, “Roedd y digwyddiadau i gyd yn hynod ddefnyddiol achos bod yn rhaid i mi siarad Cymraeg drwy’r amser.”
’Dyn ni’n falch iawn o Barry ac yn ymfalchïo o’i weld yn ennyn mwyfwy o hyder wrth siarad Cymraeg. Mae Cymru, yr iaith, ei phobl a’i diwylliant yn agos at ei galon ac mae bellach yn llwyddo i ddenu eraill i siarad ac i ddysgu’r iaith. ’Dyn ni’n edrych ymlaen at barhau i’w groesawu i’r dosbarthiadau fis Medi. Mae hi bob amser yn bleser cael sgwrsio ag e.
Debbie Gilbert, Cydlynydd ardal Maldwyn gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr
Er mwyn dod o hyd i gwrs Cymraeg neu gyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru. Mae cyrsiau am ddim ar gael ar ein gwefan hefyd.