
Bydd criw o 30 o bobl ifanc ysgolion a cholegau Wrecsam yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol – nifer ohonynt am y tro cyntaf erioed - fel rhan o gynllun Dysgu Cymraeg arbennig wedi’i arwain gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r bobl ifanc yn ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd ac Ysgol Maelor, ac yn fyfyrwyr Coleg Cambria, ac fel rhan o’r cynllun maen nhw wedi dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg 10-awr o hyd sydd wedi’u teilwra’n benodol ar eu cyfer. Mae’r cyrsiau yn adeiladu ar eu sgiliau TGAU Cymraeg – boed hynny’n iaith gyntaf neu’n ail iaith – gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu hyder a defnyddio’r iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Gwnaeth gyfanswm o 86 o bobl ifanc ddilyn y cyrsiau, ar lefelau Codi Hyder a Mynediad (dechreuwyr). Bu’r criw hefyd yn mwynhau gweithgareddau atodol, gan gynnwys gigiau ac ‘Eisteddfod Fach’ a gynhaliwyd yng nghanolfan Tŷ Pawb yn Wrecsam, i roi blas o’r Eisteddfod iddynt.
Mae’r cynllun yn rhan o ddarpariaeth eang y Ganolfan ar gyfer pobl ifanc, ac mae mwy o bobl ifanc nag erioed yn cwblhau cyrsiau’r Ganolfan. Yn 2023–2024, cwblhaodd 2,635 o bobl ifanc 16-24 oed gyrsiau’r Ganolfan, sef cynnydd o 21% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 274% ers i’r Ganolfan ddechrau cyhoeddi data oedran yn 2018–2019.
Mae gwasanaethau’r Ganolfan ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys cyrsiau oedran benodol pwrpasol, cynlluniau ar gyfer myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch, prentisiaethau a phartneriaethau â sefydliadau megis yr Urdd a Gwobr Dug Caeredin.
Meddai Meinir Ebbsworth, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Nod y cynllun yma yw pontio rhwng y ddarpariaeth addysg statudol a’r gweithgarwch Dysgu Cymraeg ar gyfer oedolion, gan roi blas o’r hyn sydd ar gael, a’r cyfleoedd niferus i fagu a datblygu sgiliau Cymraeg.
“Mae’r ymateb yn nalgylch yr Eisteddfod wedi bod yn ardderchog, ac mae’n wych gweld pobl ifanc yn manteisio ar gyfleoedd i gryfhau eu sgiliau Cymraeg. ’Dyn ni’n falch iawn o’u cefnogi, a chynnig profiadau cadarnhaol iddynt trwy’r cynllun yma, ac edrychwn ymlaen at eu croesawu i’r Eisteddfod.”