Prif Weithredwr newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Penodwyd Dona Lewis yn Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Dona ar hyn o bryd yn gweithio fel Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan. Bydd yn dechrau ar ei rôl newydd ym mis Ionawr, gan olynu Efa Gruffudd Jones, sydd wedi’i phenodi yn Gomisiynydd y Gymraeg.
Magwyd Dona ger Abergele ac astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe dreuliodd 16 mlynedd yn gweithio i’r Mudiad Meithrin mewn gwahanol rolau, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweinyddol, Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Weithredwr Dros Dro.
Roedd Dona ymhlith aelodau staff cyntaf y Ganolfan pan sefydlwyd y corff yn 2016, a bu’n gyfrifol am gyflwyno’r gwasanaethau corfforaethol.
Ers hynny, mae Dona wedi arwain ar nifer o raglenni arbennig, gan gynnwys ‘Cymraeg Gwaith’, cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, a ‘Cymraeg yn y Cartref’, sy’n rhoi cyfleoedd i rieni a gofalwyr ddysgu er mwyn mwynhau’r Gymraeg gyda’u plant.
Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Llongyfarchiadau i Dona ar ei phenodiad yn Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r Gymraeg wedi bod wrth galon ei gyrfa ac mae ganddi gyfoeth o sgiliau a phrofiad perthnasol yn sgil ei gwaith yn y sector Dysgu Cymraeg.
“Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn hollbwysig i’n hymdrechion i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg a’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd. Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Dona wrth i ni wireddu’r amcanion hynny.”
Ychwanegodd Dona Lewis: “Mae ’na fwrlwm yn y sector Dysgu Cymraeg, gydag arwyddion cadarnhaol bod y galw am gyrsiau yn cynyddu, a dw i’n edrych ymlaen at arwain y Ganolfan trwy’r cyfnod cyffrous nesaf.”
Diwedd