Bydd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, yn ymuno mewn sesiwn dysgu Cymraeg ar y thema rygbi, a hynny wythnosau ar ôl cael ei phenodi i’w swydd newydd.
Bydd Abi yn ymuno â dysgwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn y wers flasu rithiol ar 6 Medi am 7yh, sy wedi ei threfnu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn ystod y sesiwn bydd ymadroddion a geiriau perthnasol yn cael eu cyflwyno, er mwyn annog y dysgwyr i ddilyn a chefnogi tîm rygbi Cymru yn Ffrainc fis nesaf.
Bydd Y Ganolfan yn gweithio’n agos gydag Undeb Rygbi Cymru dros y cyfnod nesaf, yn sgîl y bartneriaeth gafodd ei lansio rhyngddynt ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fis diwethaf.
Bwriad Y Ganolfan yw cynorthwyo Undeb Rygbi Cymru i gryfhau eu defnydd o’r Gymraeg, gan ddechrau gyda chyfres o ddosbarthiadau Cymraeg i staff y sefydliad fis Tachwedd.
Bydd dros 100 o aelodau staff yn derbyn hyfforddiant dysgu Cymraeg wythnosol, ac yn cael eu cyflwyno i dros 1,500 o adnoddau digidol Y Ganolfan.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
‘‘’Dyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Abi i’r sesiwn flasu, ac yn falch bod nifer o staff y sefydliad wedi cofrestru hefyd. Mae’n gyffrous bod cymaint ohonynt yn dymuno cryfhau eu sgiliau Cymraeg, a ’dyn ni’n dymuno’r gorau i bob un ohonynt.
‘‘Dyma ddechrau’r daith gydag Undeb Rygbi Cymru, a ’dyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu cynlluniau ar y cyd, er mwyn creu mwy o gyfleoedd i gefnogwyr rygbi Cymru ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.’’
Ychwanegodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru;
‘‘Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y sesiwn flasu yng nghwmni cefnogwyr eraill rygbi Cymru nos Fercher nesaf. Fel un o brif sefydliadau Cymru, ’dyn ni’n falch iawn o dderbyn y cyfrifoldeb a’r fraint o hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.’’