Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Prif Weithredwr newydd yn ymuno mewn sesiwn flasu rygbi

Prif Weithredwr newydd yn ymuno mewn sesiwn flasu rygbi

Bydd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, yn ymuno mewn sesiwn dysgu Cymraeg ar y thema rygbi, a hynny wythnosau ar ôl cael ei phenodi i’w swydd newydd.

Bydd Abi yn ymuno â dysgwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn y wers flasu rithiol ar 6 Medi am 7yh, sy wedi ei threfnu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn ystod y sesiwn bydd ymadroddion a geiriau perthnasol yn cael eu cyflwyno, er mwyn annog y dysgwyr i ddilyn a chefnogi tîm rygbi Cymru yn Ffrainc fis nesaf.

Bydd Y Ganolfan yn gweithio’n agos gydag Undeb Rygbi Cymru dros y cyfnod nesaf, yn sgîl y bartneriaeth gafodd ei lansio rhyngddynt ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fis diwethaf.

Bwriad Y Ganolfan yw cynorthwyo Undeb Rygbi Cymru i gryfhau eu defnydd o’r Gymraeg, gan ddechrau gyda chyfres o ddosbarthiadau Cymraeg i staff y sefydliad fis Tachwedd.

Bydd dros 100 o aelodau staff yn derbyn hyfforddiant dysgu Cymraeg wythnosol, ac yn cael eu cyflwyno i dros 1,500 o adnoddau digidol Y Ganolfan.

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;

‘‘’Dyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Abi i’r sesiwn flasu, ac yn falch bod nifer o staff y sefydliad wedi cofrestru hefyd.  Mae’n gyffrous bod cymaint ohonynt yn dymuno cryfhau eu sgiliau Cymraeg, a ’dyn ni’n dymuno’r gorau i bob un ohonynt.  

‘‘Dyma ddechrau’r daith gydag Undeb Rygbi Cymru, a ’dyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu cynlluniau ar y cyd, er mwyn creu mwy o gyfleoedd i gefnogwyr rygbi Cymru ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.’’

Ychwanegodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru; 

‘‘Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y sesiwn flasu yng nghwmni cefnogwyr eraill rygbi Cymru nos Fercher nesaf.  Fel un o brif sefydliadau Cymru, ’dyn ni’n falch iawn o dderbyn y cyfrifoldeb a’r fraint o hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.’’