
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y corff arbenigol sy’n arwain y sector Dysgu Cymraeg, yn arwain prosiect ymchwil arloesol i gefnogi plant 7–11 oed i ddysgu a siarad Cymraeg.
Mae’r prosiect – coladu casgliad craidd o dros fil o eiriau fydd yn sail i addysgu’r Gymraeg i blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg - yn adeiladu ar waith ehangach y Ganolfan i rannu ei harbenigedd dysgu a chaffael iaith â meysydd eraill.
Bydd yr eirfa graidd yn cynnwys yr enwau, ansoddeiriau a berfau mwyaf sylfaenol a defnyddiol i greu iaith, wedi’u dewis yn benodol i fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i blant.
Bydd yr eirfa yn cael ei threfnu yn ôl lefelau cychwynnol y CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd) ac ar gael i ysgolion ledled Cymru, ac Adnodd a Chyngor Llyfrau Cymru, ymhlith partneriaid eraill.
Mae’r Ganolfan wedi comisiynu Dr Steve Morris a Dr Tess Fitzpatrick o Brifysgol Abertawe i gynnal yr ymchwil. Dros y misoedd diwethaf, maen nhw wedi cynnal gweithdai a grwpiau trafod gyda 50 o athrawon cynradd ledled Cymru. Bydd yr eirfa derfynol yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi 2025.
Meddai Meinir Ebbsworth, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r prosiect hwn yn garreg filltir hollbwysig yn ein gwaith â phlant a phobl ifanc. Mae’n adeiladu ar y gwasanaethau eang sy’n barod ar gael gan y Ganolfan ar gyfer y genhedlaeth iau, ac yn cynnig offeryn gwerthfawr fydd yn cael effaith gadarnhaol ar hyder a sgiliau iaith dysgwyr ifanc ledled Cymru.
“Ein nod yw creu sail bwrpasol a chydlynus i gefnogi plant i gryfhau eu sgiliau Cymraeg.”