Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn croesawu’r newyddion am y bartneriaeth ffrydio newydd rhwng S4C a’r BBC, a fydd yn rhoi mwy o sylw i raglenni S4C ar BBC iPlayer.
Mae gwylio rhaglenni Cymraeg yn ffordd wych o ddysgu, defnyddio a mwynhau’r iaith. Mae’n cefnogi a chyfoethogi siwrnai dysgwyr a siaradwyr newydd at y Gymraeg, ac yn eu cyflwyno i ddiwylliant cyfoes yng Nghymru.
Darllenwch fwy: S4C a’r BBC yn cytuno ar bartneriaeth newydd BBC iPlayer