Scott Quinnell
Scott Quinnell gyda'i fentor Sarra Elgan
O ble rwyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n dod o bentref tu allan i Lanelli o’r enw Five Roads. Es i i Five Roads Junior School ac yna’r Graig Comprehensive School yn Llanelli. Ro’n i’n chwarae rygbi o oedran ifanc - chwaraeais i i dîm o dan 11 Llanelli, ac yna parhau wrth chwarae i’r Scarlets, ac i Gymru. Dw i nawr yn sylwebydd rygbi, ac yn byw ym Mryn Buga gyda fy nheulu.
Pam o't ti eisiau dysgu Cymraeg?
Mae dysgu Cymraeg wastad wedi bod yn rhywbeth o’n i’n meddwl gwneud, ond fe wnaeth ‘Iaith ar Daith’ roi’r hwb oedd angen i mi, felly ddaeth e ar yr amser cywir.
Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg?
Wel, dw i dal yn dysgu. Mae wastad yn anodd dysgu iaith newydd. Ond pan wnes i ddechrau ei siarad, daeth llawer ohoni nôl ata i - fel rhyw fath o ail natur. Yn sydyn, roedd e‘i gyd yn dechrau gwneud synnwyr!
Beth oedd y peth gorau am dy sialens ‘Iaith ar Daith’?
Ges i’r cyfle i wneud pob math o sialensiau ar y daith, gyda help gyda fy mentor, Sarra Elgan. Dw i’n credu y peth wnes i fwynhau y mwyaf oedd mynd â’r ffuredau (ferets) am dro, a darllen stori yn Gymraeg i’r cathod yng Ngwarchodfa Anifeiliaid Llys Nini yn Abertawe. Dw i’n credu roedd un o’r cathod yn cefnogi’r Ospreys - doedd hi ddim i’w gweld yn mwynhau’r stori!
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Mêl – dysgais i’r gair yma yn ystod ‘Iaith ar Daith’. Dyma fy hoff air Cymraeg newydd.
Oes unrhyw gyngor gyda ti i ddysgwyr neu bobl sy’n ystyried dysgu Cymraeg?
Gwthiwch eich hun, a pheidiwch bod ofn gwneud camgymeriad. Siaradwch Gymraeg i gymaint o bobl â phosib.
Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth yw bod adref gyda fy nheulu, a fy nghas beth yw negatifrwydd.
Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Chwarae golff.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Barod am her!