Cwrs iaith arbennig ar gyfer Sefydliad y Merched
Lansio gwasanaeth ar-lein newydd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched wedi cyhoeddi gwasanaeth iaith ar-lein newydd er budd aelodau SyM.
Bydd y cwrs ar-lein 10 awr yn galluogi aelodau SyM i ddysgu Cymraeg yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain, gan helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad.
Dangosodd adolygiad mewnol yn 2017 bod 27% o 16,000 o aelodau SyM yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Mynegodd 13% arall o aelodau di-Gymraeg ddiddordeb brwd i ddysgu'r iaith.
O ganlyniad, cysylltodd SyM â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda chais iddynt greu cwrs dechreuwyr ar-lein pwrpasol i ddiwallu anghenion yr aelodau hynny sy'n dymuno dysgu Cymraeg neu wella eu rhuglder. Bydd y gwasanaeth ar gael i aelodau ar draws 600 o ganghennau’r sefydliad yng Nghymru, a thu hwnt.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gyrsiau ar-lein a grëwyd gan y Ganolfan, fel rhan o’r cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, sy’n cryfhau sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd. Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiant sylweddol ac mae tua 13,000 o unigolion wedi cymryd rhan ers ei lansio yn 2017.
Cyhoeddwyd y cwrs ar-lein newydd mewn derbyniad yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Dywedodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “’Dyn ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda Sefydliad y Merched i ddatblygu ein cwrs Dysgu Cymraeg ar-lein sydd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer aelodau'r sefydliad. Mae'r cwrs yn ymarferol o ran ei natur a'i nod yw helpu aelodau i ddefnyddio Cymraeg bob dydd yn gyflym.”
Ychwanegodd: “Dyma'r tro cyntaf i sefydliad allanol ein comisiynu'n uniongyrchol fel hyn ac mae'n cadarnhau cyfraniad cadarnhaol y Ganolfan wrth hybu’r Gymraeg ar draws ystod o sectorau.”
Dywedodd Mair Stephens, Cadeirydd FfCSyM - Cymru: “Mae Sefydliad y Merched yn chwarae rôl unigryw wrth ddarparu cyfleoedd addysgol i fenywod a'r cyfle i feithrin sgiliau newydd. Rydym yn ddiolchgar i'r tîm yn y Ganolfan Genedlaethol am eu cefnogaeth frwdfrydig wrth ddatblygu'r fenter gyffrous hon. ”
Ychwanegodd: “Mae gan Sefydliad y Merched hanes hir a nodedig yng Nghymru ac rydym yn hyrwyddo'r Gymraeg yn weithredol fel mater polisi. Mae llawer o'n haelodau'n cyfarfod ac yn sgwrsio yn Gymraeg ac mae llawer o'n digwyddiadau'n cael eu cynnal yn ddwyieithog.
“Rwy'n siŵr y bydd y cwrs ar-lein newydd o fudd mawr i aelodau sy'n dymuno dysgu Cymraeg wrth iddynt gyflawni eu gwaith amhrisiadwy yn eu cymunedau.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru o'r enw 'Codi Golygon' a oedd yn argymell creu un corff i fod yn gyfrifol am y sector Dysgu Cymraeg i oedolion.
- Yn dilyn proses dendro, enillodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y cytundeb i sefydlu'r Ganolfan. Ariennir y Ganolfan gan Lywodraeth Cymru.
- Dechreuodd y Ganolfan ar ei gwaith yn swyddogol ym mis Awst 2016.
- Mae'r Ganolfan yn cytundebu 11 o ddarparwyr cwrs (gan gynnwys prifysgolion, colegau addysg bellach a chynghorau sir) sy'n cynnal cyrsiau ar ei rhan ym mhob cwr o Gymru.
- Cynhelir tua 1,500 o gyrsiau bob blwyddyn.
- Gwybodaeth bellach: https://dysgucymraeg.cymru
Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched
- Ers 1923 bu'n orfodol i’r Aelod Bwrdd Cenedlaethol dros Gymru fod yn siaradwr Cymraeg.
- Mae pedwar aelod o staff gweithredol Sefydliad y Merched yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg.
- Yng Nghymru mae gan Sefydliad y Merched 16,000 o aelodau ar draws 600 cangen a 13 Ffederasiwn Sirol.
- Sefydliad y Merched yw'r sefydliad menywod gwirfoddol mwyaf yn y DU. Dathlodd ei chanmlwyddiant yn 2015 ac ar hyn o bryd mae ganddi 215,000 o aelodau mewn tua 6,300 o sefydliadau ar draws Lloegr, Cymru a’r Ynysoedd.
- Gwybodaeth bellach: https://www.thewi.org.uk/wi-in-wales