
Mae symud i Sir Gâr, a sefydlu busnes yno, wedi ysbrydoli Paul Raven, cyd-berchennog Tea Traders, i ddysgu Cymraeg.
Cafodd Paul ei eni yn Aberystwyth, a’i fagu yn Abertawe ar aelwyd ddi-Gymraeg. Ar ôl blynyddoedd yn byw a gweithio yn Llundain ac yn Sir y Fflint, yn 2017, penderfynodd Paul a’i bartner, Nick, symud i Gwm Gwendraeth ac agor siop sy’n gwerthu te arbenigol yn nhref Caerfyrddin.
Yn fuan ar ôl symud i’r ardal, sylweddolodd Paul ei fod yn byw mewn ardal Gymraeg ei hiaith, gyda nifer fawr o’r cwsmeriaid yn siarad Cymraeg yn y siop.
Eglura Paul: “Mae’r gymuned leol yn bwysig iawn i’n busnes, ac roedd yr awydd i siarad Cymraeg gyda’n cwsmeriaid, a defnyddio mwy o’r iaith yn ein busnes wedi fy ysgogi i ddysgu Cymraeg.”
Dechreuodd taith iaith Paul yn 2017, a manteisiodd ar gymorth gan wasanaeth cyfieithu Helo Blod a Menter Gorllewin Sir Gâr i greu bwydlen a gwefan ddwyieithog. Ymunodd â chwrs Dysgu Cymraeg ar gyfer dechreuwyr, ond, oherwydd prysurdeb gwaith a phandemig Covid-19, penderfynodd roi’r gorau i ddysgu Cymraeg dros dro.
Ar ddechrau 2024 daeth Paul ar draws rhaglen o’r enw ‘Cymraeg i Fusnesau Sir Gaerfyrddin’, sy’n helpu busnesau lleol i groesawu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r fenter yn gydweithrediad rhwng rhaglen ARFOR Cyngor Sir Caerfyrddin a chynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Paul wedi bod yn dilyn cwrs ar-lein gyda busnesau lleol eraill, o dan arweiniad tiwtor o Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan. Rhannodd Paul y wybodaeth gyda’i gydweithwyr yn Tea Traders, ac erbyn hyn, mae tri ohonyn nhw’n dysgu Cymraeg gyda’i gilydd.
Meddai Paul, “Dw i’n clywed a gweld y Gymraeg yn cael ei siarad a’i defnyddio bob dydd, yn yr archfarchnad, wrth ymweld â chyflenwyr, a chwsmeriaid yn y siop. Dw i bendant yn teimlo fy mod i’n byw mewn cymuned ble mae’r Gymraeg yn ffynnu ac mae hyn yn rhoi hwb i fi barhau i ddysgu a gwella fy sgiliau Cymraeg.”
Mae Paul wrth ei fodd gyda’r sesiynau wythnosol ar Zoom, ac yn dweud bod pawb yn y dosbarth yn cefnogi ei gilydd.
“Mae dysgu Cymraeg wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ein busnes. Ein cwsmeriaid sy’n dod yn gyntaf, a’n nod yw bod yn gynhwysol, a rhoi croeso cynnes i bawb sy’n galw yn y siop. ’Dyn ni hefyd yn gweld bod ymwelwyr sy’n dod i Gaerfyrddin yn chwilfrydig am yr iaith, ac yn mwynhau clywed a dysgu geiriau Cymraeg yn ystod eu hymweliad â’r siop.”
Mae Paul yn dweud bod ei sgiliau a’i hyder yn gwella bob dydd.
“Dw i’n deall llawer iawn mwy o Gymraeg lafar yn y siop. Dw i’n ymarfer gyda fy nghydweithwyr. Dw i’n annog cwsmeriaid i siarad â fi yn Gymraeg, ac yn ceisio ymateb yn Gymraeg os dw i’n gallu.”
Dyma gyngor Paul i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg: “Ewch amdani! Dysgwch mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Mae cymaint o ffyrdd i ddysgu Cymraeg. Mae dysgu gydag eraill yn hwyl ac yn ffordd wych i gwrdd â phobl.”
Ychwanega: “Rhowch wybod i bobl eich bod chi’n dysgu, a chwiliwch am gyfleoedd i ddefnyddio eich Cymraeg yn y gymuned leol. Gwnewch chi gwrdd â llawer o ddysgwyr eraill a siaradwyr Cymraeg a fydd yn eich annog a’ch helpu i ymarfer. Ceisiwch wrando ar y Gymraeg bob dydd, fel Radio Cymru, neu raglen deledu dych chi’n ei mwynhau ar S4C.”
Mae Paul bellach yn dilyn cwrs Sylfaen, ac yn edrych ymlaen at fagu hyder a pharhau i ddefnyddio ei Gymraeg yn y busnes a’r gymuned leol.