Mae’r sgwrs gyhoeddus am y daith i ddod yn siaradwr Cymraeg wedi dechrau mewn cynhadledd genedlaethol a ddenodd 200 o westeion, a gynhaliwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Pwrpas y gynhadledd, a roddodd lwyfan i siaradwyr gwadd o Wlad Pwyl, Norwy a Chanada, yn ogystal ag arbenigwyr o Gymru, oedd trafod sut i greu un llwybr dysgu clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg, gan gefnogi dysgwyr o bob oed.
Agorodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg y digwyddiad, gan egluro amcanion Deddf y Gymraeg ac Addysg. Bydd y Ddeddf yn cefnogi targed miliwn o siaradwyr Cymraeg strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Yn ganolog i’r Ddeddf, bydd ffordd newydd o ddisgrifio sgiliau Cymraeg, yn seiliedig ar fframwaith rhyngwladol y CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd).
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn barod yn defnyddio’r CEFR. Mae ei holl gyrsiau, sydd ar gael ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i siaradwyr hyderus, yn cyd-fynd â’r fframwaith.
Rhannodd arbenigwyr y Ganolfan eu profiadau o ddefnyddio’r CEFR ac o greu system lwyddiannus sydd wedi cyfrannu at gynnydd sylweddol yn y niferoedd o oedolion sy’n dysgu’r iaith – 18,330 yn 2023-2024, y nifer uchaf erioed.
Trafododd arbenigwyr rhyngwladol eu profiadau o ddefnyddio’r fframwaith mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys byd addysg a gweithleoedd, gyda’r pwyslais ar gydweithio agos a manteision defnyddio disgrifyddion cyffredin i ddisgrifio sgiliau ieithyddol.
Meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: “Mae’n bwysig atgoffa ein hunain mai’r norm rhyngwladol yw dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig, gall Cymru ymddangos yn anarferol, ond fel cenedl ddwyieithog, ry’n ni’n sicr yn y brif ffrwd fyd-eang.
“Mae llawer o lwyddiannau’n barod o ran ein hiaith - mwy o oedolion nag erioed yn dysgu Cymraeg, a chwarter plant Cymru yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.
“Ond mae angen gwneud mwy er mwyn sicrhau dyfodol byw i’r Gymraeg. Bydd y Ddeddf newydd yn gosod strwythur ar gyfer cynllunio bwriadus, gyda’r CEFR fel llinyn arian yn rhoi llwybr dysgu Cymraeg gydol oes, a hynny am y tro cyntaf erioed.”
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Roedd yn fraint cael croesawu cynifer o’n partneriaid i’r gynhadledd i drafod sefydlu un llwybr dysgu clir ar gyfer dysgu Cymraeg gydol oes.
“Prif nod y Ganolfan yw creu siaradwyr Cymraeg sy’n mwynhau defnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd, ac roedd y gynhadledd yn gyfle gwerthfawr i ni rannu ein profiadau o’r CEFR, ynghyd â’n harbenigedd dysgu a chaffael iaith.
“Mae defnyddio fframwaith pwrpasol yn cynnig cyfle arbennig i ni gefnogi taith iaith unigolion o bob oed, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â’r Llywodraeth, a’n holl bartneriaid, er mwyn gwireddu uchelgais y Ddeddf.”
Llun: Y ddarlledwraig, Betsan Powys, Joseph Smith, Rheolwr Adnoddau Strategol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwawr Taylor, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, Lowri Bunford-Jones, Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.