
Rhwng 29 Medi a 8 Tachwedd bydd drama ddwyieithog Romeo a Juliet yn teithio Cymru.
Diolch i Steffan Donnelly, cyfarwyddwr y ddrama, ac Isabella Colby Browne, sy'n actio Juliet am ymuno â ni i sôn am y ddrama.
Mae Isabella sy'n dod o'r Wyddgrug ac yn byw yng Nghaerdydd, wedi dysgu Cymraeg. Isabella wnaeth ennill Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Dych chi'n gallu gwylio recordiad o'r sgwrs gyda Steffan ac Isabella isod - mae copi o'r eirfa ar gael ar y ddolen nesaf: Geirfa sgwrs Romeo a Juliet.
Dilynwch y ddolen ganlynol i weld rhestr o ddyddiadau'r ddrama ar wefan Theatr Cymru: Theatr Cymru | Romeo a Juliet