Sgwrs gyda David Thomas
Gyda’r Nadolig ar y gorwel, cawson ni sgwrs gyda David Thomas, enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2021, a chyd-berchennog Jin Talog.
Pam roeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?
Ges i fy magu mewn teulu di-Gymraeg yng Nghaerdydd. Dw i’n cofio mynd i Eisteddfod Cwm Rhymni 1990 gyda chriw o ffrindiau (doedd dim un ohonon ni’n siarad Cymraeg ar y pryd) a theimlo’r bwrlwm oedd ar y maes. Ro’n i yn y brifysgol yn Lloegr ar y pryd. Bues i’n byw a gweithio yn Llundain am flynyddoedd wedyn. Yn 2016, symudais yn ôl i Gymru a dysgu’r iaith. Ers dysgu Cymraeg, dw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau a chysylltiadau newydd yn fy milltir sgwâr yn Sir Gâr. Dw i wedi bod mor lwcus i symud i gymuned ble mae’r iaith yn ffynnu. Dw i wrth fy modd yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, yn y busnes, ond hefyd yn y gymuned. Mae’n golygu cymaint i fi fel siaradwr newydd.
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i’r busnes?
Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn allweddol i lwyddiant Jin Talog. Pan sefydlon ni’r ddistyllfa ro’n ni’n benderfynol o greu menter ddwyieithog sy’n blaenoriaethu’r iaith Gymraeg – y penderfyniad gorau i ni ei wneud erioed! I fusnesau yng Nghymru, mae defnyddio’r Gymraeg yn talu ar ei ganfed. Mae ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i brynu’r jin ar ein gwefan trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, ’dyn ni wedi denu llawer o gwsmeriaid newydd, heb sôn am gyfleoedd i hysbysebu Jin Talog dros y cyfryngau yn y Gymraeg.
Ydy’r Nadolig yn gyfnod prysur i chi?
Ydy, yn bendant! ’Dyn ni’n gwerthu llawer o Jin Talog yn ystod yr wythnosau cyn Nadolig - i westai a bwytai ar draws Cymru, ac i gwsmeriaid ar-lein. O ganlyniad, ’dyn ni’n brysur iawn yn distyllio jin, ac yn lapio poteli. ’Dyn ni’n postio ar draws y Deyrnas Unedig, a thramor hefyd. Diolch byth, mae mis Ionawr wastad yn amser tawel i ni, felly ’dyn ni’n cael egwyl fach ar ôl Nadolig.