Sgwrs gyda Michael Stalman
Disgrifiad llun: Michael, dde, ar gwrs Dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, gyda Paul Woodhouse, oedd hefyd ar y cwrs.
Cafodd Michael Stalman ei fagu yng Nghaergybi ac mae erbyn hyn yn byw yn Llangefni gyda’i bartner a’i ddau o blant. Mae’n gweithio yn Ysgol Uwchradd Caergybi fel pennaeth yr adran wyddoniaeth
Er iddo astudio’r Gymraeg yn yr ysgol, dydy Michael ddim wedi siarad yr iaith ers gadael yr ysgol.
Erbyn hyn, mae’n barod i ail-gydio yn yr iaith, ac mae wedi bod ar gwrs Dysgu Cymraeg arbennig ar gyfer athrawon gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cawson ni air gyda Michael am ei daith i fagu hyder i siarad Cymraeg eto.
Beth ydy dy hanes di a’r Gymraeg?
Mi wnes i astudio Cymraeg yn yr ysgol ond doedd ’na ddim llawer o anogaeth adref, a wnes i ddim gweithio o gwbl at fy arholiad Cymraeg. Dw i rŵan yn byw efo partner sy’n siarad Cymraeg iaith gyntaf a dau o blant sy’n rhugl yn yr iaith a dw i’n gweithio mewn ysgol lle mae’r Gymraeg yn cael ei hannog. Dw i isio medru siarad Cymraeg.
Wyt ti’n mwynhau dysgu Cymraeg?
Ydw, wir. Dw i’n clywed y Gymraeg o fy nghwmpas bob dydd, ond cyn dod ar y cwrs yma, doedd gen i ddim o’r hyder i’w siarad.
Dw i isio medru siarad Cymraeg efo fy nheulu a dw i isio i blant yr ysgol siarad Cymraeg efo fi. Dw i isio gwneud yn siŵr byddan nhw dal efo cyfle i sgwrsio efo fi ac athrawon eraill yn Gymraeg tra byddan nhw yn yr ysgol
Dw i’n hapus iawn ac yn gyffrous mod i’n dysgu Cymraeg.
Be faset ti’n hoffi yn y dyfodol?
Dw i isio bod yn hollol rugl a medru helpu fy mhlant efo’u gwaith cartref gwyddoniaeth yn Gymraeg.
Y freuddwyd fasai dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg – siarad Cymraeg trwy’r dydd yn yr ysgol ac yna dod adref at y teulu sy’n siarad Cymraeg.
Fasai dim rhaid i mi siarad dim Saesneg wedyn, gan fod hyd yn oed y ci yn deall Cymraeg yn ein tŷ ni!
Mae llawer o gyrsiau preswyl yn cael eu cynnal i’r gweithlu addysg yn 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen hon: Cyrsiau Preswyl i'r Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg