Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgwrs â Chadeirydd Maes D, Eisteddfod y Garreg Las 2026

Sgwrs â Chadeirydd Maes D, Eisteddfod y Garreg Las 2026

Tomos Hopkins yw Cadeirydd Maes D – y pentref Dysgu Cymraeg – yn Eisteddfod y Garreg Las 2026.

Mae ardal y Garreg Las yn cynnwys Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr.

Cawson ni air â Tomos...

Llongyfarchiadau ar gael dy ddewis yn gadeirydd Maes D. Sut mae’r paratoadau yn mynd?

Mae’n mynd yn wych, diolch! Dechreuon ni weithio ar y rhestr testunau ddiwedd 2024, a ’dyn ni’n hapus iawn fod testunau amrywiol gyda ni ar bob lefel – o Mynediad i Uwch - sy’n rhoi blas lleol.

Cynhaliwyd yr Ŵyl Gyhoeddi yn ddiweddar. Beth yn union yw hi?

Mae’r Ŵyl Gyhoeddi yn cael ei chynnal ychydig dros flwyddyn cyn i’r Eisteddfod ymweld ag ardal. Mae’n ddigwyddiad arbennig sy’n croesawu’r Eisteddfod i’r ardal.

Cafodd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod y Garreg Las ei chynnal yn Arberth ar 17 Fai. Roedd gorymdaith a seremoni yn cynnwys ysgolion, grwpiau cymunedol, a Gorsedd Cymru -  cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill.

Beth oedd ymateb y dysgwyr i’r Ŵyl Gyhoeddi?

Roedd pawb wedi mwynhau cael y cyfle i fod  yn rhan o’r Ŵyl Gyhoeddi.

Roedd yn brofiad newydd i nifer o bobl i weld yr Orsedd yn Arberth a chael dysgu am draddodiadau’r Eisteddfod.

Ar ôl y seremoni gaethon ni sesiwn coffi a chlonc oedd yn gyfle gwych i gymdeithasu ac i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg. 

Beth sydd ar y gweill dros y misoedd nesaf?

Mae ’na amryw o ddigwyddiadau, gan gynnwys gigiau, nosweithiau bingo, helfa drysor ac ati ar draws yr ardal. Mae’r wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau codi arian ar gael ar dudalen Facebook: Digwyddiadau Eisteddfod y Garreg Las.

Caneuon Ail Symudiad, un o fandiau pwysicaf y sîn roc Gymraeg, fydd thema cyngerdd côr yr Eisteddfod. Bydd y côr yn dechrau ymarfer ym mis Ionawr a bydd hwn yn gyfle gwych i siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd i ddod i adnabod ei gilydd a gwneud ffrindiau tra’n dysgu caneuon hwyliog.

Dw i’n arwain ‘Parti Dysgu Cymraeg Sir Benfro’, parti canu i ddysgwyr yn Hwlffordd, a ’dyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu’r caneuon er mwyn teimlo’n hyderus yn yr ymarferion gyda’r côr mawr.

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf yn Eisteddfod 2026?

Dw i’n edrych ymlaen at groesawu dysgwyr a siaradwyr newydd i Maes D a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl sy’n dysgu Cymraeg i deimlo’n rhan o Eisteddfod 2026.