Digon o gyfle i ‘siarad’ wrth i gynllun newydd
ddod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd
Bydd cynllun newydd sy’n paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr yn cael ei beilota mewn pedair ardal yng Nghymru yn ystod y gwanwyn.
Nod y cynllun gwirfoddol, o’r enw ‘Siarad’, yw codi hyder dysgwyr trwy roi cyfle iddynt ymarfer sgwrsio yn anffurfiol gyda siaradwyr rhugl. Bydd y dysgwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i weithgareddau hamdden a diwylliannol Cymraeg yn eu hardaloedd.
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am y cynllun, sy’n cael ei beilota gan bedwar o’i darparwyr, sef Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, Dysgu Cymraeg Sir Benfro, Dysgu Cymraeg Morgannwg a Dysgu Cymraeg Gwent.
Fel rhan o’r cynllun, bydd pob darparwr yn paru 20 o ddysgwyr gydag 20 siaradwr Cymraeg i gwrdd am o leiaf 10 awr i sgwrsio ac ymarfer. Mae’r cynllun wedi’i seilio ar gynllun tebyg o’r enw Voluntariat Per La Llengua yng Nghatalwnia.
Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Pontio, Canolfan Garth Olwg, Theatr y Sherman a Theatr Felinfach, yw’r sefydliad cyntaf i gefnogi’r cynllun peilot.
Bydd disgownt o 10% yn cael ei gynnig ar docynnau cynhyrchiad newydd y Theatr Genedlaethol, Y Tad, yn y theatrau uchod i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y cynllun.
Yn ystod y perfformiadau, bydd modd defnyddio ap y Theatr Genedlaethol, ‘Sibrwd’, sy’n cynnig crynodeb Saesneg ar gyfer dysgwyr neu’r rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg. Mae’r Ganolfan Genedlaethol hefyd wedi creu gwers i ddysgwyr yn seiliedig ar y cynhyrchiad.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae dysgu iaith fel dysgu canu offeryn – mae angen digon o ymarfer. Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth, felly, yn rhan hollbwysig o waith y Ganolfan Genedlaethol.
“Nod y cynllun peilot newydd hwn yw meithrin hyder a rhuglder ein dysgwyr a’u hannog i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol. ’Dyn ni’n ddiolchgar i’r Theatr Genedlaethol a’i phartneriaid am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at weld sut mae’r cynllun yn datblygu.”
Os oes dysgwr neu siaradwr Cymraeg yn awyddus i gymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch os gwelwch yn dda â swyddfa@dysgucymraeg.cymru
Diwedd