Wedi eu geni mewn ardal wledig yn ne ddwyrain Awstria, doedd Sasha Wanasky ddim yn gwybod dim am y Gymraeg nes iddyn nhw ddod ar draws y grŵp Gorky’s Zygotic Mynci ar app cerddoriaeth ‘Spotify.’
Roedd Sasha yn 17 oed, ac fe gawson nhw eu swyno gan y gerddoriaeth a’r geiriau, a phenderfynu eu bod eisiau dysgu mwy. Felly mi wnaethon nhw ‘gwglo’ o le’r oedd Gorky’s yn dod, a pha iaith roedden nhw’n siarad a phenderfynu eu bod nhw eisiau ymweld â’r wlad ryfeddol yma oedd wedi creu gymaint o argraff.
Cafodd Sasha swydd wirfoddol gyda theulu yn gofalu am 10 o gathod a 10 o gŵn yn Garndolbenmaen pan oedden nhw’n 18 oed, a threulio dau fis yng Nghymru.
Yna, ar ôl dychwelyd i Awstria, dechreuon nhw ddysgu Cymraeg dros Duolingo. Aethon nhw i Lancaster ar flwyddyn allan fel rhan o’u gradd Saesneg, a dod ar draws pobl o Fangor, a gwneud ffrindiau. Symudon nhw i Fangor yn 2021 i wneud ôl-radd mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor.
Er bod Duolingo wedi eu helpu i ddysgu geirfa, SaySomethingInWelsh a gwersi Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain helpodd Sasha i siarad Cymraeg a deall gramadeg yr iaith.
Cafon nhw’r hyder i ddechrau siarad Cymraeg yn gyhoeddus tra’n gweithio mewn caffi ym Mangor. Cychwynnon nhw trwy ddweud ambell i frawddeg yn y Gymraeg, a’i gweld hi’n hawdd yno gan fod ganddyn nhw sgript, bron, o’r sgwrs gyson y byddent yn ei chael gyda’r cwsmeriaid. Roedd hwn yn help enfawr i ddechrau siarad Cymraeg yn gyhoeddus, ac yn un o’r rhesymau pam dysgon nhw’r iaith mor sydyn.
Maen nhw’n teimlo bod cael rheswm i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth – roedden nhw’n dysgu am eu bod nhw eisiau bod yn rhan o’r gymuned ac eisiau gallu deall geiriau cerddoriaeth Gymraeg.
Maen nhw bellach wedi setlo o fewn cymuned cwiar gogledd orllewin Cymru, gan gychwyn trwy ymuno â chlwb darllen ‘Llyfrau Lliwgar’ ym Mangor. Maen nhw hefyd yn helpu i drefnu digwyddiadau gyda chymdeithas LHDTC+ ym Mangor.
Yn eu gwaith, mae Sasha’n gyfrifol am gasglu data lleferydd fel rhan o Brosiect Arfor ar gyfer cwmni Cyfieithu Cymen. Y syniad yw casglu’r lleisiau, yn siarad Cymraeg naturiol, er mwyn gwella systemau AI yn y Gymraeg.
Maen nhw’n dal i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg a’u hoff fand ar hyn o bryd yw Kim Hon. Mae darllen a gwrando ar eiriau’r caneuon hefyd yn dal i fod yn bwysig, rhywbeth oedd yn gymaint o help iddyn nhw wrth ddysgu’r iaith.