Dysgu Cymraeg i siarad â'r plant
Mae Simone Anthony yn byw gyda’i gŵr a’i theulu ifanc yn Aberystwyth, ac yn dysgu Cymraeg. Dyma ei stori hi:
Pam wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Rydw i’n dysgu Cymraeg oherwydd mod i’n mwynhau byw yng Nghymru a siarad gyda fy ffrindiau sy’n siarad Cymraeg. Mae gyda fi ffrind sydd â phlant yr un oed â fy mhlant i, ac rydyn ni’n helpu ein gilydd i warchod tra bod y llall mewn gwers Gymraeg.
Pa wersi Cymraeg wyt ti’n mynd iddyn nhw?
Ar hyn o bryd dw i’n mynychu gwers Gymraeg wythnosol lle mae cyfle i sgwrsio ac ymarfer fy Nghymraeg. Dw i hefyd wedi mynychu’r cwrs haf sy’n digwydd yn ystod mis Awst ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?
Yr hyn dwi’n ei fwynhau fwyaf yw i weld y datblygiad dw i’n ei wneud wrth ddysgu. Dw i’n gallu darllen Cymraeg i fy mhlant, a gwrando ar y radio yn Gymraeg. Y budd mawr dw i’n ei weld o ddysgu’r iaith yw gallu helpu fy mhlant gyda’u gwaith yn yr ysgol, a theimlo’n rhan o gymuned. Mae gen i nifer o ffrindiau sy’n siarad Cymraeg a dw i’n mwynhau cymdeithasu gyda nhw.
Y cyngor gorau i ddysgwyr eraill?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn maddau i chi am wneud camgymeriadau! Rhowch air Saesneg yn y frawddeg os nad dych chi’n siŵr o’r gair Cymraeg, a byddwch yn dod yn fwy hyderus gydag amser. Os oes gyda chi blant, siaradwch gyda nhw yn Gymraeg. Does dim ots gyda nhw os dych chi yn gwneud camgymeriadau!
Eich gwyliau gorau erioed?
Es i i Iwerddon gyda fy ngŵr cyn cael plant! Roedd y wisgi yn flasus iawn!
Eich hoff fwyd?
Unrhyw fwyd wedi ei wneud o gynnyrch lleol.
Y lle gorau i fynd am bryd o fwyd yn eich ardal chi?
Mae digon o ddewis yn Aberystwyth – dw i’n hoffi Agnelli’s, Baravin, Medina’s a Gwesty Cymru.
Eich hoff beth?
Amser rhydd gyda’r teulu.
Eich cas beth?
Baw ci.
Tri gair i ddisgrifio chi’ch hun?
Diolchgar, mam, ffrind.
Pwy fyddech chi’n ei ddewis i fynd gyda chi am bryd o fwyd a pham? (gall fod yn rhywun sy’n fyw neu'n ffigwr hanesyddol)
Bu farw mamgu pan oeddwn i’n un oed. Dw i’n siwr yn byddai gyda ni lot fawr i’w ddweud wrth ein gilydd.
Eich diddordebau
Darllen, rhedeg a chysgu!
Eich hoff lyfr Cymraeg/Saesneg
Saesneg – Jane Eyre
Cymraeg – ‘e-ffrindiau’ gan Lois Arnold. Y llyfr Cymraeg cyntaf i fi ei ddarllen a’i ddeall
Eich atgof cyntaf?
Chwarae ar gae yn Llundain pan oeddwn i’n chwech oed.
Beth sy’n eich gwneud yn hapus?
Bod allan yn mwynhau byd natur, dringo mynyddoedd a bod gyda theulu a ffrindiau.
Eich uchelgais?
Aros yn iach yn ein byd ni a bod yn ffrind ac yn fam dda i’r plant.
Eich hoff air Cymraeg?
Hiraeth.