Yn ystod gŵyl Ar Lafar fel arfer mae dysgwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a safleoedd Amgueddfa Cymru.
Er nad yw'n bosib cynnal yr ŵyl eleni, mae'n bleser gyda ni i gyflwyno Mina i chi. Mae Mina yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol, lle mae'n gyfrifol am gadw a digido ffilmiau o bob math. Mae Mina hefyd yn dysgu Cymraeg. Dyma ei stori hi.