Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Stuart Robertson

Stuart Robertson
Stuart Robertson

DYSGU CYMRAEG YN Y CYFNOD CLO

Newyddiadurwr yn canmol gwersi iaith mewn dosbarthiadau rhithiol

Arwydd ffordd ar gyfer Ynysybwl oedd un o'r pethau cyntaf a ysbrydolodd y newyddiadurwr o Lundain, Stuart Robertson, i ddysgu’r Gymraeg. 

“Roedd yn gynnar yn y 1990au ac ro’n i newydd symud i Droedyrhiw ger Merthyr Tudful i weithio i’r Celtic Press, ddwy neu dair blynedd ar ôl cwblhau cwrs hyfforddi newyddiaduraeth yng Nghaerdydd,” cofia Stuart, un o’r nifer cynyddol o bobl sy’n dilyn cyrsiau mewn dosbarthiadau rhithiol o dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

“Un diwrnod ro’n i’n gyrru a gwelais i’r arwydd ar gyfer Ynysybwl. Bryd hynny, do’n i heb glywed llawer o Gymraeg a ches i fy nharo gan iaith a oedd, i'm clustiau i, gydag enwau lleoedd mor anarferol. Dw i wastad wedi cofio’r foment Ynysybwl honno! ”

Ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei ffrindiau Cymraeg eu hiaith, penderfynodd Stuart, sy’n wreiddiol o Penzance, Cernyw, gofrestru mewn dosbarth nos wythnosol ar gyfer dysgwyr yng Ngholeg Merthyr Tudful.

“Dysgais y pethau sylfaenol ond wnes i ddim mynd â hi’n bell iawn,” mae'n cofio. “Ond â minnau’n newyddiadurwr yn ne Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw, ro’n i’n ymwybodol iawn o’r ymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg ac felly roedd gen i ddiddordeb yn hynny. Ro’n i eisiau dilyn cwrs haf ond do’n i ddim yn gallu fforddio cymryd yr amser i ffwrdd o'r gwaith.”

Aeth Stuart, 49, ymlaen i weithio fel is-olygydd i'r South Wales Evening Post. Ysgrifennodd adroddiadau chwaraeon ar gyfer y Western Mail a’r Wales on Sunday cyn i'w yrfa fynd ag ef i Lundain ym 1999. Roedd yn ddirprwy olygydd chwaraeon ar bapur newydd The Independent ac mae bellach yn awdur a golygydd ar ei liwt ei hun. 

Mae'n dal i ymweld â Chymru yn rheolaidd, gan ymweld â ffrindiau a threulio gwyliau yma. Dair blynedd yn ôl, cymerodd ran yn hanner marathon Caerdydd. 

Yna eleni, fe gofrestrodd ar gwrs newydd.

“Ers symud i Lundain, ro’n i wedi gadael i fy Nghymraeg lithro,” meddai Stuart, sy’n dad i ddau o blant, “ond pan welais fod ysgol haf gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn cael ei chynnal yn rhithiol, ro’n i'n meddwl y byddai'n gyfle da, yn enwedig gyda mwy o amser rhydd ar fy nwylo yn sgil y cyfnod clo. 

“Yn ffodus, ro’n i’n dal i gofio digon i hepgor y cwrs Mynediad ar gyfer dechreuwyr a mynd yn syth ymlaen i’r lefel nesaf, sef Sylfaen.”

Mae Stuart newydd ddechrau cwrs lefel Canolradd mewn dosbarth rhithiol ac erbyn mis Mai y flwyddyn nesaf mae'n gobeithio symud ymlaen i’r lefel Uwch. “Dw i’n awyddus i fynd â’r maen i’r wal, fel petai,” meddai.

“Mae nifer o fuddion i ddysgu’n rhithiol mewn dosbarthiadau Zoom,” ychwanega Stuart. "I ddechrau, mae'n agor y cyfle i bobl o bob cwr o'r byd i ddysgu Cymraeg - bu myfyrwyr yn byw yn Dubai, yr Eidal a'r Almaen ar fy nghyrsiau. Mae gennym grwpiau ‘breakout’ llai, sydd hefyd yn ychwanegu at y profiad dysgu."

Yn ogystal â sgwrsio â chyd-fyfyrwyr yn y dosbarth rhithiol, mae Stuart wedi ymestyn ei rwydwaith cymdeithasol y tu hwnt i'r gwersi ffurfiol. Mae hefyd yn gwylio S4C ac yn gwrando ar BBC Radio Cymru. “Dw i’n mwynhau Pobol y Rhondda ar S4C ac yn hoffi clywed pobl y Cymoedd yn siarad Cymraeg mewn ffordd naturiol,” meddai.

Cymaint yw brwdfrydedd Stuart dros yr iaith, nes iddo ysgrifennu stori fer yn Gymraeg yn ddiweddar.

Marw Am Noson Allan yw’r teitl - stori arswyd am zombies yng nghymuned myfyrwyr Caerdydd,” eglura Stuart.“ Fel newyddiadurwr, dw i wedi arfer ysgrifennu yn Saesneg ond erioed wedi rhoi cynnig ar ffuglen o’r blaen - nid lleiaf ffuglen iaith Gymraeg. Mae wedi'i anelu at ddysgwyr, a dw i wedi ceisio osgoi defnyddio geiriau sy'n gwneud i bobl oedi o'u darllen er mwyn edrych ar y geiriadur.”

Mae Stuart wedi anfon y stori at gwmni cyhoeddi ac mae’n edrych ymlaen at gael adborth. 

"Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yn cael ei gyhoeddi ond roedd yn hwyl ei ysgrifennu," meddai.

Diwedd

 

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'r Ganolfan yn gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg ac mae'n gweithio gydag 11 darparwr cyrsiau ledled Cymru, sy'n cynnal cyrsiau ar ei rhan.
  2. Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  3. Mae cyrsiau Cymraeg newydd mewn dosbarthiadau rhithiol yn cychwyn ym mis Ionawr; gall pobl hefyd ddilyn cyrsiau ar-lein am ddim a chyrchu ystod o adnoddau dysgu digidol - ewch i https://learnwelsh.cymru am yr holl wybodaeth.
  4. Yn ystod y Cyfnod Clo, bu cynnydd yn y niferoedd sy'n dysgu Cymraeg trwy ddulliau digidol gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae tua 8,000 o ddysgwyr newydd wedi dilyn cyrsiau blasu ar-lein, gyda thua 900 o ddysgwyr newydd yn dilyn cyrsiau “dysgu cyfunol” cenedlaethol newydd, sy'n cyfuno dysgu mewn dosbarth rhithiol gyda modiwlau hunan-astudio ar-lein.