Mwynhau ymarfer eich Cymraeg – syniadau dysgwyr
Mae dysgwyr Cymraeg wedi rhannu eu syniadau ar gyfer ymarfer eu Cymraeg fel rhan o ymgyrch ‘Her yr Haf’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae dysgu’r gân werin ‘Oes gafr eto’ trwy wylio fideo Cerys Matthews, darllen hunangofiant Wynne ‘Go Compare’ Evans a sgwrsio gyda ffrindiau a pherthnasau sy’n siarad yr iaith ymhlith y syniadau.
Bwriad Her yr Haf yw annog dysgwyr i ymarfer eu sgiliau Cymraeg dros gyfnod gwyliau’r haf, er mwyn magu hyder a pharatoi ar gyfer cyrsiau newydd sy’n dechrau ym mis Medi.
Mae sawl dysgwr wedi troi at fyd natur i ymarfer, gan ddysgu enwau Cymraeg adar megis ‘bronfraith, ‘telor y cnau’ a ‘theiliwr Llundain’.
Mae eraill wedi mwynhau digwyddiadau rhithiol fel Tafwyl, yr Eisteddfod AmGen a’r Sesiwn Fawr Digidol gyda nifer, hefyd, yn mwynhau sgwrsio gyda dysgwyr o bedwar ban byd mewn boreau coffi a sesiynau siarad rhithiol.
Mae cadw dyddiadur yn ffordd arall o ymarfer, tra bod darllen cylchgronau fel Golwg a Lingo a llyfrau eraill ar gyfer dysgwyr a gwylio S4C hefyd yn helpu dysgwyr i gryfhau eu sgiliau Cymraeg.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan:
“Mae manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn hollbwysig wrth ddysgu’r iaith ac mae’n rhan o’r hwyl o ddysgu iaith newydd. ’Dyn ni’n falch dros ben bod ein dysgwyr wedi llwyddo dros yr haf i ymarfer yr iaith, gan ddefnyddio dulliau rhithiol ac ar-lein yn ystod y cyfnod ymbellhau cymdeithasol. ’Dyn ni’n edrych ymlaen at ail-gydio yn y dysgu ym mis Medi.”