Mae’r gantores o orllewin Sussex, Kat Grzegorzek, sydd bellach yn byw ym Mynydd Isa ger Yr Wyddgrug, wedi cofleidio’r Gymraeg a bywyd yng Nghymru.
Daw partner Kat o’r Wyddgrug, a dyna’r prif reswm y symudodd i Gymru i fyw. Yn syth ar ôl symud wyth mlynedd yn ôl, cofrestrodd Kat ar gwrs Dysgu Cymraeg, ac mae bellach yn dilyn cwrs Uwch wyneb yn wyneb gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae gan Kat radd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn canu ers iddi fod yn 12 mlwydd oed. Roedd yn awyddus i deimlo’n rhan o’r gymuned, felly ymunodd â chôr CantiLena, yn Llanrwst, er mwyn cael cyfle i siarad Cymraeg a chwrdd â phobl newydd.
Mae Kat hefyd yn canu gyda Chymdeithas Gorawl yr Wyddgrug a’r Cylch, ac mae wrth ei bodd yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd – yn ei gwaith fel cynorthwyydd addysgu yn Ysgol St Mary’s ger Wrecsam, yn y gymuned, a gyda’i phartner a’i deulu.
Meddai Kat, “Pan symudais i’r ardal, ro’n i’n benderfynol o ddysgu Cymraeg er mwyn teimlo’n rhan o’r gymuned.
“Ro’n i wastad eisiau ymuno â chôr Cymraeg, ac eleni ro’n i’n teimlo’n barod i wneud hynny ac yn hyderus bod fy Nghymraeg yn ddigon da. Dw i wedi ymuno â chôr CantiLena, ac yn cael cyfle i siarad Cymraeg yno gyda ffrindiau newydd.
“Fel cantores, dw i wedi arfer canu mewn gwahanol ieithoedd – fel Eidaleg neu Ffrangeg, ac o ganlyniad, dw i’n mwynhau canu yn Gymraeg, er bod hi’n anodd cofio’r geiriau weithiau!
Mae cystadlu mewn eisteddfodau yn rhywbeth eithaf newydd i’r gantores, a gyda’r Eisteddfod Genedlaethol wedi’i chynnal ar stepen ei drws yn 2025 yn Wrecsam, roedd Kat wedi mwynhau’r profiad o gystadlu’n unigol yn yr unawd i ddysgwyr am y tro cyntaf ar lwyfan Maes D. Cystadlodd am gadair y dysgwyr, mewn ensemble lleisiol gyda chriw o ardal Llansannan, a gyda chôr SATB CantiLena hefyd.
Meddai, “Roedd hi’n wythnos brysur ond mi wnes i fwynhau’n fawr iawn! Dyma’r tro cyntaf i fi gystadlu’n unigol yn yr Eisteddfod – ro’n i’n nerfus, ond roedd yr holl gystadlu’n brofiad da iawn.
“Gan fod yr Eisteddfod yn lleol, ro’n i’n teimlo y basai’n gyfle da i gystadlu a mynd amdani. Er fy mod i wedi bod i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol, dyma’r tro cyntaf i fi allu cystadlu’n Gymraeg, sy’n deimlad braf iawn.”