(Mae'r daith gyntaf wedi ei gohirio oherwydd y tywydd garw. Bydd y daith yn cael ei haildrefnu. Croeso i chi gysylltu a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am fwy o fanylion)
Mae'r gyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded tywysedig ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cael ei chynnal yn Sir y Fflint ar 13 Hydref
Mae’r daith gyntaf, sy’n dilyn Taith Pererin Gogledd Cymru, yn cychwyn ger Capel a Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi am 10.30 ar 13 Hydref. Mae’r daith oddeutu 7km o hyd, a bydd cyfle am baned a sgwrs mewn caffi bob pen i’r daith.
Mae’r teithiau cerdded yn fenter ar y cyd rhwng Urdd Gobaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Y nod yw creu cyfleoedd newydd i ddysgwyr ymarfer tu allan i’r dosbarth a chymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg.
Mae mwy o wybodaeth am y daith gyntaf ar gael yma, ac mae croeso cynnes i bawb, gan gynnwys plant.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae’r gyfres yma o deithiau cerdded yn gyfle i ddysgwyr gymdeithasu, ac i ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol, yn yr awyr agored.
“’Dyn ni’n falch iawn o fedru cydweithio gyda’r Urdd i roi’r cyfleoedd yma i’r dysgwyr. Mae defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn hanfodol er mwyn rhoi hyder i’r dysgwyr, a rhoi cyfle iddyn nhw fwynhau defnyddio’r iaith yng nghwmni ffrindiau a dysgwyr eraill. ’Dyn ni’n awyddus i groesawu dysgwyr o bob lefel, ac o bob ardal i fwynhau’r teithiau hyn.”
Bydd y teithiau cerdded eraill yn dilyn yn ystod y Gwanwyn a’r Haf 2019. Bydd taith gerdded yn y canolbarth ar 9 Mawrth, arfordir yn y de-orllewin ar 13 Ebrill, yn y gogledd-orllewin ar 11 Mai, ac arfordir yn y de-ddwyrain, o Ynys y Barri i Ŵyl Fach y Fro ar 15 Mehefin. Bydd pob taith tua 4 milltir, a bydd digon o gyfle i gymdeithasu ac i ddod i adnabod dysgwyr eraill.
Os hoffech chi ymuno yn y teithiau cerdded hyn, anfonwch e bost at swyddfa@dysgucymraeg.cymru neu ffoniwch 0300 3234324.