Meddai llefarydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Roedd Gwilym Roberts yn ffigwr blaenllaw ym myd y Gymraeg, ac ysbrydolodd filoedd o bobl i ddysgu a mwynhau’r iaith. Roedd yn aelod blaenllaw o’r tîm fu’n cynnal cyrsiau dwys iawn gyda’r nos yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd, a’r cwbl yn wirfoddol.
“Wedi’i eni a’i fagu yng Nghaerdydd, bu’n athro Cymraeg mewn tair o ysgolion cynradd, cyn ymddeol yn gynnar a throi at ddysgu Cymraeg i oedolion, yng Nghymru ac ym Mhatagonia.
“Roedd yn angerddol dros y Gymraeg, yn gyfathrebwr heb ei ail ac yn diwtor arbennig iawn.
“Gwilym oedd y person cyntaf i dderbyn Tlws Coffa Aled Roberts gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn 2024, yn gydnabyddiaeth o’i gyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.
“Bydd colled enfawr ar ei ôl, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i gylch eang o ffrindiau yng Nghaerdydd a thu hwnt.”