Un llwybr dysgu clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg...
Argraffiadau Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, o’r gynhadledd ddiweddar am y Gymraeg.
Roedd yn fraint arbennig i groesawu dros 200 o westeion – cydweithwyr, partneriaid a phencampwyr iaith – i’n cynhadledd genedlaethol am y Gymraeg (Cynhadledd Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: Un llwybr dysgu clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg – cefnogi dysgwyr o bob oed, 4 Rhagfyr).
Daeth yr unigolion hyn o bob cwr o Gymru i rannu profiadau, dysgu gan arbenigwyr rhyngwladol ac edrych gyda’n gilydd ar y cyfleoedd a’r buddion o greu un llwybr dysgu clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg, i bobl o bob oed a chefndir.
Tyfu cymuned o siaradwyr Cymraeg
Prif nod y Ganolfan yw creu siaradwyr Cymraeg sy’n mwynhau defnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd, ac roedd y gynhadledd yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni i rannu ein harbenigedd a’n profiadau dysgu a chaffael iaith.
Mae mwy o bobl nag erioed yn dewis dysgu’r iaith gyda ni. Yn 2023–2024, cwblhaodd dros 18,000 o bobl ein cyrsiau – cynnydd o 45% ers i’r Ganolfan gymryd cyfrifoldeb dros y sector Dysgu Cymraeg yn 2016.
Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu llwyddiant cwricwlwm a chyrsiau cenedlaethol y Ganolfan, sy’n seiliedig ar fframwaith rhyngwladol y CEFR, sy’n disgrifio sgiliau iaith. Mae un llwybr dysgu clir i oedolion ei ddilyn - o gychwyn arni fel dechreuwr i gyrraedd lefel siaradwr hyderus.
Un llwybr, un daith iaith
Siaradodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, yn bwerus am Ddeddf y Gymraeg ac Addysg, a gafodd ei phasio’n unfrydol yn y Senedd rai misoedd yn ôl. Prif nod y ddeddf yw cefnogi targed miliwn o siaradwyr Cymraeg strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Bydd y Ddeddf yn creu llwybr dysgu Cymraeg gydol oes, yn seiliedig ar y CEFR – dyma fydd y “llinyn arian” wrth galon y Ddeddf.
Edrych y tu hwnt i Gymru: dysgu gan arbenigwyr rhyngwladol
Mae’n bwysig i ni edrych tuag at wledydd eraill sy’n dathlu dwyieithrwydd ac sy’n defnyddio’r CEFR i lunio eu polisïau a’u dulliau dysgu iaith.
Bu’n bleser clywed gan un o’r arweinwyr rhyngwladol yn y maes, Valdemar Martyniuk, o Wlad Pwyl. Mae Valdemar yn arbenigo mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ac yn cyfrannu’n eang ar y pwnc. Rhoddodd sylfaen gadarn i’n trafodaethau drwy egluro tarddiad, diben a defnydd y CEFR – ac esboniodd sut mae’r fframwaith wedi dod yn arf allweddol yn y maes dysgu ieithoedd.
Clywson ni hefyd gan:
Yr Athro Paula Kristmanson, Prifysgol New Brunswick, Canada – ar ddefnyddio’r CEFR yng nghyd-destun dysgu Ffrangeg;
Yr Athro Cecilie Manes Carlsen, Prifysgol Gorllewin Norwy – ar gymhwyso’r CEFR yn y farchnad lafur ac ym maes caffael ail iaith.
Roedd y cyfraniadau hyn yn ein hatgoffa bod Cymru yn rhan o gymuned ehangach o wledydd sy’n ceisio sicrhau dulliau dysgu iaith clir, cyson ac effeithiol.
Diwrnod ysbrydoledig
Mae defnyddio fframwaith cydnabyddedig yn cynnig cyfle arbennig i ni gefnogi taith iaith unigolion o bob oed gyda’r Gymraeg, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid er mwyn gwireddu uchelgais y Ddeddf.