Mwynhau bwrlwm Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro
Bydd croeso cynnes i ddysgwyr o bob rhan o'r wlad ymweld â'r ardal Dysgu Cymraeg yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, o ddydd Llun ymlaen (27 Mai).
Bydd gwahanol weithgareddau, gan gynnwys siaradwyr gwadd a gigs cerddoriaeth, trwy gydol yr wythnos. Bydd caffi yn y Pierhead hefyd a digon o gyfleoedd i fwynhau siarad Cymraeg.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr Urdd.