Penderfynodd Wayne Howard, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, ei fod eisiau dysgu Cymraeg gan ei fod wedi dewis addysg Gymraeg i’w blant - Connagh ac Eleanor.
Roedd eisiau cefnogi ei blant yn yr ysgol, ac roedd yn benderfynol o ddysgu’r iaith.
Mae hynny 32 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae Wayne wedi serennu gyda’i fab, Connagh ar S4C yn y gyfres Cymru, Dad a Fi ac mae ar fin cyhoeddi ei hunangofiant, Hunangofiant Dyn Positif.
Cawson ni’r pleser o’i holi am ei daith yn dysgu Cymraeg.
O ble rwyt ti’n dod?
Ces i fy ngeni yn ardal y dociau yng Nghaerdydd. Roedd pump ohonon ni yn byw mewn tŷ bychan yn Stryd Herbert ar bwys y dociau. Yna, yn wyth oed, symudon ni i Dredelerch yn nwyrain y ddinas.
Doedd dim Cymraeg yn y teulu o gwbl ond fy athrawes Gymraeg gyntaf yn Ysgol Uwchradd Caer Castell oedd yr actor Myfanwy Talog! Roedd yn gariad i David Jason (Only Fools and Horses) ar y pryd.
Pryd wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?
Amser maith yn ôl, pan gafodd Connagh ei eni, dw i’n cofio fi a fy ngwraig yn cychwyn trafod i ba ysgol ddylai Connagh fynd er mwyn cael addysg dda.
A dyma un o fy ffrindiau’n awgrymu y dylai gael addysg Gymraeg – byddai wedyn yn ddwyieithog ac yn cael addysg dda. Ro’n ni’n gwybod y byddai’n rhaid i mi neu fy ngwraig ddysgu Cymraeg er mwyn gallu ei gefnogi, felly gwnes i benderfynu dysgu.
Bues i’n mynd i wersi unwaith yr wythnos ar City Road. Yna, dyma fy athrawes yn awgrymu bod angen i mi wneud cwrs WLPAN.
Felly, gwnes i gwrs WLPAN – ac roedd yn sioc ofnadwy i mi achos do’n i ddim wedi disgwyl y byddai popeth yn Gymraeg ond dyna sut oedd e. A dyna’r ffordd orau i ddysgu unrhyw iaith.
Ar ôl hynny, bues i ar gwrs dwys yn Llanilltud Fawr a Phrifysgol Aberystwyth, a chwrs gloywi iaith ysgrifenedig.
Yn ystod hyn i gyd, ro’n i’n dal i weithio yn y ffatri ddur yn Nhremorfa, Caerdydd – cyn iddyn nhw gyhoeddi fod 800 ohonon ni’n colli ein swyddi.
Mae’n rhaid fod hynny wedi bod yn anodd?
Ro’n i’n grac ac yn rhwystredig iawn ar y pryd - ond erbyn hyn, dw i’n gallu gweld ei fod yn drobwynt pwysig yn fy mywyd.
Roedden nhw’n cynnig ‘Steel Partnership Training’ – sef cyfle i ail-hyfforddi ar gyfer swydd newydd.
Gofynnais i i fi fy hun “beth ydy dy gryfderau?” “beth wyt ti’n hoffi ei wneud?” a’r ateb ddaeth oedd “ieithoedd”. Felly, gwnes i benderfynu ail-hyfforddi fel athro Cymraeg ail-iaith yn 51 oed.
Bues i’n gweithio fel athro Cymraeg ail-iaith yn Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog yn Nhrelai a bues i hefyd yn dysgu Cymraeg i Oedolion am bedair blynedd.
Beth sy wedi newid ers i ti ddysgu Cymraeg?
Mae ’na gymaint o ddrysau wedi agor i mi ers i mi ddysgu Cymraeg. Dw i wedi ymweld â nifer o lefydd gwahanol a chwrdd â phobl ddifyr yn ystod y cyfnod o ffilmio’r gyfres deledu Cymru, Dad a Fi gyda Connagh y mab.
Ces i brofiad arbennig o dda yn ddiweddar hefyd mewn digwyddiad yn yr Egin yng Nghaerfyrddin – ‘Hanes Pobl Dduon’. Ces i wahoddiad i fod yn feistr seremoni ac ro’n i’n cyflwyno ar y llwyfan a ches i gyfle i adrodd cerdd a dawnsio. Roedd yn brofiad arbennig iawn.
Dw i hefyd ar fin cyhoeddi fy hunangofiant yn Gymraeg – Hunangofiant Dyn Positif. Fyddai dim o hyn wedi digwydd heb y Gymraeg.
Llun: S4C