
Rhwng 13 ac 19 Hydref, bydd BBC Radio Cymru ac S4C yn cynnal Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.
Bydd lleisiau dysgwyr a siaradwyr newydd i’w clywed ar BBC Radio Cymru a S4C drwy’r wythnos.
Os dych chi eisiau clywed straeon am ddysgwyr, a mwynhau eitemau ar gyfer dysgwyr, cofiwch wrando!
Digwyddiadau
Cwrdd â’r cyflwynwyr
Dyma gyfle i fwynhau sgwrs gyda rhai o gyflwynwyr BBC Radio Cymru – Beti George, Heledd Cynwal a Marc Griffiths.
Pryd? 14 Hydref am 7pm ar Zoom
I gofrestru, dilynwch y ddolen: Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg - Cwrdd â'r cyflwynwyr! | Dysgu Cymraeg
Teithiau
Mae S4C yn cynnig cyfleoedd arbennig i fynd ar deithiau tu ôl i’r llen i ddysgu mwy am y cyfryngau Cymraeg, sef:
- BBC Cymru, Sgwâr Canolog, Caerdydd
- Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
I archebu eich lle, dilynwch y ddolen: Wythnos Dathlu Dysgu | Dysgu Cymraeg | S4C