Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg – Dathlu'r Daith Iaith!

Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg – Dathlu'r Daith Iaith!

Mae’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg yn fenter gyffrous rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, BBC Radio Cymru, ac S4C, gyda’r nod o ddathlu’r holl unigolion ysbrydoledig sy’n dysgu Cymraeg ledled y wlad.

Miloedd yn dysgu

Mae miloedd o bobl yn dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan bob blwyddyn – dros 18,000 yn ystod 2023-20244 – ac mae’r galw am ein cyrsiau yn cynyddu.  Mae’r wythnos yn gyfle i ddiolch i’r dysgwyr a’u tiwtoriaid am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i’r Gymraeg.

Lleisiau dysgwyr a siaradwyr newydd

Yn ystod yr wythnos, mae BBC Radio Cymru ac S4C yn rhoi llwyfan i leisiau newydd y Gymraeg, gyda chyfweliadau ac eitemau di-ri ar draws yr amserlenni.

Cyfleoedd dysgu amrywiol

Mae dewis eang o gyfleoedd dysgu ar gael gyda’r Ganolfan, o ddechreuwyr i godi hyder.  Mae’n bosib dysgu mewn dosbarth wyneb-yn-wyneb, neu ar-lein, yn y gymuned a’r gweithle – mae sawl llwybr at yr iaith, a’r Ganolfan yno i gefnogi pob cam o’r ffordd.

Mwynhau’r Gymraeg

Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr fwynhau’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth yn un o flaenoriaethau’r Ganolfan, ac mae gwrando a gwylio Radio Cymru ac S4C yn ffordd wych o wneud hynny.  Fel rhan o’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae sgwrs rithiol â chyflwynwyr Radio Cymru hefyd yn cael ei chynnal, a chyfleoedd i ymweld â safleoedd y BBC ac S4C.

Am fwy o wybodaeth am yr wythnos, dilynwch y ddolen nesaf: 
Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg