Fe fydd BBC Radio Cymru yn dathlu dysgu Cymraeg eleni gydag wythnos arbennig o arlwy yn ystod mis Hydref. Bydd yr wythnos yn rhoi platfform unigryw i ddysgwyr Cymraeg ac yn dathlu eu cyfraniad i’r byd Cymraeg.
-
>
Bwletin newyddion ychwanegol bob nos am 8pm ar gyfer dysgwyr
-
>
Cyfle i griw o ddysgwyr gymryd yr awenau bob prynhawn ar raglen Ifan Evans
-
>
Golygydd gwadd ar gyfer y Post Cyntaf
-
>
Cyhoeddi canlyniad pôl sy’n gofyn beth yw hoff air y rheiny sy’n dysgu Cymraeg
-
>
Podlediad ychwanegol ar gyfer dysgwyr gyda’r cyflwynydd a'r dysgwr Cymraeg, Wynne Evans yn darllen o’i hunangofiant
-
>
Penodau newydd o Hanes yr Iaith gan y prifardd Ifor ap Glyn, yn trafod rhai o’r geiriau yn y pôl “hoff air Cymraeg”
Bwriad yr wythnos yw rhoi llwyfan i fwy o leisiau dysgwyr yn ogystal â darparu mwy o gynnwys defnyddiol i’r rheiny sy’n dysgu’r iaith.
Bydd yr wythnos yn cael ei chynnal ganol mis Hydref, i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae, ac mae’n ffrwyth partneriaeth arbennig rhwng BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Pwrpas yr wythnos hon yw i ddathlu’r rheiny sy'n dysgu Cymraeg, i ehangu’r arlwy sydd ar eu cyfer, a rhoi platfform i leisiau dysgwyr yr iaith. Rydym yn gwybod fod Radio Cymru yn adnodd bwysig i nifer o ddysgwyr, ac yn gallu rhoi mynediad iddynt i ddiwylliant Cymraeg ehangach. Dyna’n bendant yw profiad aelodau fy nheulu fy hun sy’n dysgu’r Gymraeg. Mae BBC Radio Cymru yn gartref i bawb, o bob oed ac o ba bynnag gefndir ieithyddol, sydd am wrando ar raglenni a cherddoriaeth yn y Gymraeg, felly rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dathlu dysgwyr Cymraeg gyda’r wythnos arbennig yma.”
Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru
‘‘Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan a ’dyn ni’n gwybod bod ein dysgwyr yn mwynhau defnyddio’u Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru. Bydd yr wythnos arbennig hon hefyd yn gyfle i ddathlu brwdfrydedd ac ymrwymiad y rheiny sy’n dysgu’r iaith. Mae’r Ganolfan a Radio Cymru wedi cydweithio yn barod i ddarparu adnoddau i ddysgwyr, sydd ar gael trwy ein gwefan, dysgucymraeg.cymru, a ’dyn ni’n falch iawn o adeiladu ar y bartneriaeth honno trwy gefnogi’r wythnos o ddathlu Dysgu Cymraeg.’’
Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol