Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Wythnos yn Nant Gwrtheyrn: Profiad Kate Williams 

Wythnos yn Nant Gwrtheyrn: Profiad Kate Williams 

Kate Williams yw Cyfarwyddwr Arweinyddiaeth ‘Dysgu’, y corff newydd sy’n cefnogi dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth mewn ysgolion ledled Cymru. 

Aeth Kate i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn yn ddiweddar, er mwyn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg, dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Bydd yn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn yn fuan ar gyfer ail ran y cwrs, ac yn mynychu pum gwers rithiol cyn hynny. 

Dyma argraffiadau Kate o'r cwrs... 

Fis Ionawr, mi wnes i fynychu cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn.  Wythnos oedd hyd y cwrs, ond mi fyddai’n dychwelyd ym mis Mawrth, ac yn aros am wythnos arall.  Ro’n i’n disgwyl diwrnodau llawn gwersi, geirfa a gramadeg.  Ond roedd y profiad yn arbennig ac yn ysbrydoledig - nid yn unig fel dysgwr, ond fel un sydd wrthi’n ailgysylltu â’r iaith, y diwylliant a Chymru. 

Mae Nant Gwrtheyrn yn fwy na chanolfan iaith.  Mae lleoliad y ganolfan rhwng y môr a’r mynydd mor hyfryd.  Mae’r daith yno, yn enwedig y ffordd sy’n arwain at y Nant, yn unigryw.  

Roedd byw, dysgu, a threulio amser yno yn golygu fy mod yn defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.  Ro’n i’n siarad Cymraeg bob dydd… dros bryd o fwyd, wrth ymweld â Chaernarfon, ac wrth sgwrsio â’r dysgwyr eraill ar ddiwedd diwrnod o wersi.  Wrth aros ar y safle, ro’n i’n magu hyder, yn gwneud cysylltiadau ac yn teimlo’n rhan o’r gymuned.  

Mi wnes i ddod i adnabod y criw o ddysgwyr yn gyflym iawn.  Ro’n i’n dysgu gyda’n gilydd, yn cefnogi ein gilydd, ac yn chwerthin llawer bob dydd.  Roedd treulio amser yng nghwmni eraill oedd yr un mor awyddus â fi i ddysgu Cymraeg, ond ar wahanol gamau o’u taith iaith, yn brofiad arbennig.  Erbyn diwedd yr wythnos, roedd fy sgiliau iaith wedi gwella, ond ro’n i wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd hefyd.  

Roedd hi’n wythnos brysur.  Bob dydd, ro’n i’n meddwl, siarad a gwrando yn Gymraeg.  Roedd y tiwtoriaid mor gefnogol, ac yn ein hannog i ddal ati bob amser.  Roedden nhw’n croesawu camgymeriadau, gan eu bod yn rhan o’r broses ddysgu.  

Roedd yr addysgu yn wych, a’r tiwtoriaid yn ein cynorthwyo i ddeall y Gymraeg, a’r patrymau iaith yn well.  Roedd yr iaith yn cael ei chysylltu â phobl, lle a hanes.  Felly ro’n ni’n dysgu sut i lunio brawddegau, ond hefyd yn dysgu pam bod yr iaith mor bwysig.  

Mi wnes i ddysgu llawer ar y cwrs am y Gymraeg, Cymru a stori’r wlad hefyd.  Roedd cael fy nhrochi yn yr iaith am wythnos gyfan yn gwneud i mi werthfawrogi byw a gweithio yng Nghymru, a sylweddoli bod gan bawb ddyletswydd i warchod a hyrwyddo’r iaith. 

Erbyn diwedd yr wythnos, ro’n i wedi blino, ond wedi fy ysbrydoli, ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy.  Dw i’n methu aros i ddychwelyd i’r Nant ym mis Mawrth, er mwyn datblygu ymhellach, ac i weld yr un criw eto.  

Mae gen i fwy o hyder erbyn hyn, oherwydd dw i’n teimlo’n fwy parod i roi cynnig arni, i siarad, a gwneud camgymeriadau.  

Mae Nant Gwrtheyrn yn lle unigryw.  Mae’n lle arbennig i ddysgu Cymraeg a chael cefnogaeth gan diwtoriaid gwych.  Mae modd hefyd gwerthfawrogi harddwch naturiol yr ardal yno, a ffurfio cysylltiadau gwerthfawr, sy’n creu ymdeimlad o berthyn. 

Diolch, Nant Gwrtheyrn — dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd ym mis Mawrth.  

Am fwy o wybodaeth am ddarpariaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg, dilynwch y ddolen nesaf: