Y canwr o Gaerdydd sy’n dysgu Cymraeg, diolch i Y Llais

Mae ’na nifer o ddysgwyr ar raglen Y Llais, sef sioe dalent The Voice yn Gymraeg. Un ohonyn nhw ydy Stephen Hill, neu SJ fel mae’n cael ei adnabod ar y rhaglen. Mae’n wreiddiol o Dredelerch yng Nghaerdydd.
Mae’n perfformio ar y rhaglen gyda’i ffrind Endaf, ac mae’n rhan o dîm Aleighcia Scott.
Cawson ni air â SJ am ei daith ar Y Llais hyd yn hyn.
Wyt ti’n mwynhau canu’n Gymraeg ar Y Llais?
Mae wedi bod yn sialens enfawr i mi, ond dw i wir yn caru canu’n Gymraeg ar y rhaglen. Mae gen i nifer o ganeuon dw i’n gallu eu canu yn Gymraeg erbyn hyn.
Dw i fel arfer yn darllen geiriau’r gân yn Saesneg yn gyntaf i ddeall yr ystyr, ac yna dw i’n dysgu’r geiriau Cymraeg. Mae’n gallu bod yn heriol ond dw i wrth fy modd.
Ers cychwyn dysgu Cymraeg, dw i’n teimlo ychydig yn drist na wnes i gymryd yr iaith o ddifri yn yr ysgol.
Ai dyma’r tro cyntaf i ti ganu yn Gymraeg?
Na, nid dyma’r tro cyntaf. Dw i ac Endaf wedi perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar raglen Heno ar S4C yn Gymraeg.
Cyn i mi gyfarfod Endaf tua dwy flynedd yn ôl, doedd gen i ddim cyswllt â’r iaith. Mae Endaf wedi agor drws i fyd newydd. Do’n i heb glywed cerddoriaeth Gymraeg cyn hynny.
Ar ôl perfformio yn yr Eisteddfod ac ar Heno, a gweld pa mor garedig a chroesawgar oedd pawb, ro’n i eisiau dysgu Cymraeg.
Gwnes i hefyd glywed fod Aleighcia, sy’n dod o’r un ardal â mi yng Nghaerdydd, ac wedi dechrau dysgu Cymraeg. Gwnaeth hyn roi hwb i mi ddechrau dysgu.
Sut brofiad ydy bod ar raglen Gymraeg fel Y Llais?
Mae’n brofiad anhygoel. Mae pawb mor gyfeillgar ac yn fy annog i barhau i ddysgu Cymraeg.
Mae Endaf yn wych hefyd ac wedi bod o gymorth mawr i mi – dw i’n falch iawn ein bod ar y rhaglen gyda’n gilydd.
Dw i’n sicr am gario mlaen i ddysgu Cymraeg ar ôl i’r sioe ddod i ben.