Cafodd Laurie Watts-Keane ei eni yn Merthyr, ei fagu yn Aberdâr nes ei fod yn naw oed ac yna symud i Leicester yn Lloegr i fyw.
Roedd ei dad-cu ochr ei fam yn arfer siarad Cymraeg yn blentyn, a’i fam-gu a’i dad-cu ochr ei dad yn siarad Gwyddeleg. Felly, roedd e wastad ychydig yn drist nad oedd yn gallu siarad dim un o’r ieithoedd Celtaidd.
Ond daeth y cyfle iddo ddysgu Cymraeg pan symudodd i Gaerdydd i weithio ar ôl iddo raddio.
Cawson ni sgwrs fach gyda Laurie am ei daith yn dysgu Cymraeg, a’i fywyd yng Nghaerdydd.
Pryd wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?
R’on i’n gweithio i gwmni yswiriant Admiral yng Nghaerdydd, a gwnes i gyfarfod merch oedd yn siarad Cymraeg yno. Roedd hi’n byw ar yr un stryd â mi yn Nhreganna, ac adeg y clo, pan oedd popeth yn dechrau ail-agor, gwnes i fynd allan gyda hi a’i ffrindiau i’r dafarn leol.
Dyma oedd y tro cyntaf i mi fod yng nghanol yr iaith, gyda nifer o’r sgyrsiau yn Gymraeg. A gwnes i deimlo angerdd yn fy nghalon – ro’n i eisiau siarad Cymraeg hefyd.
Sut gwnest ti ddechrau Dysgu Cymraeg?
Gwnes i ymuno â gwersi ar-lein Dysgu Cymraeg Caerdydd. R’on i’n hoff iawn o’r strwythur yn y gwersi, ac roedd yn un ffordd o wneud yn siŵr fy mod i’n ymarfer siarad bob wythnos. Dw i hefyd wedi bod ar ddau gwrs haf, oedd yn wych.
Yn ogystal â’r gwersi, mae’n rhaid i ti wneud yn siŵr dy fod yn adeiladu stwff o’u cwmpas, fel dy fod yn defnyddio’r iaith yn dy fywyd bob dydd.
Mae’n teimlo’n lletchwith i ddechrau gofyn i ffrindiau os gei di siarad Cymraeg gyda nhw, ond mae’n werth gwneud. Mae hefyd yn bwysig gwrando ar y Gymraeg o dy gwmpas a mwynhau bod yn rhan o gymuned Gymraeg.
Rwyt ti’n gwneud stand-up yn Gymraeg hefyd – sut mae hynny’n mynd?
Mae’n mynd yn grêt! Dw i wastad wedi hoffi gwneud i bobl chwerthin, a gyda stand-up, rwyt ti’n cael adborth yn syth i ddweud os yw rhywbeth yn dda neu beidio!
Gwnes i’r gig cyntaf yn ddwyieithog flwyddyn a hanner ar ôl dechrau dysgu Cymraeg i godi arian i Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ac yna gwnes i sioe ‘Chwarae Chwedlau’ yng Nghaerdydd. Roedd yn bum munud o hyd, i gyd yn Gymraeg, ar thema LHDTC+. Ro’n i ofn, ond gwnes i rili mwynhau ac roedd y gynulleidfa yn gynnes iawn.
Dw i’n gweithio ar sioe newydd ddwyieithog, yn trafod y cyfnod pan wnaeth popeth ddigwydd ar yr un pryd i mi - dechrau dysgu Cymraeg, dechrau gwneud stand-up a dod mas yn traws. Dw i’n edrych ymlaen at rannu am y tro cyntaf yn gŵyl gomedi Aberystwyth yn yr Hydref.
Beth fasai dy gyngor i berson ifanc sy’n meddwl dysgu Cymraeg?
Mae byd mawr yn disgwyl amdanat ti yn Gymraeg, ac mae llawer o bobl sy ddim yn gwybod ei fod yn bodoli nes dysgu’r iaith.
Mae’n deimlad rili da gallu siarad Cymraeg a dw i wedi mwynhau’r daith o’i dysgu. Dw i wrth fy modd fy mod i’n gallu siarad Cymraeg.