Criw Morgannwg yn dod i'r brig
Llongyfarchiadau i griw Dysgu Cymraeg Morgannwg am ddod yn fuddugol yn rownd derfynol Y Cwis Mawr, a gynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Enillodd y criw becyn o nwyddau, gan gynnwys tanysgrifiad i gylchgronau Lingo Newydd a’r Wawr. Yn y llun, mae’r criw gyda Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (ar y pen, ar y dde) a’r cwis feistr, Tim Hartley (ail o’r pen, ar y dde).