
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi croesawu’r cyhoeddiad am enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2025 yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, gan dynnu sylw at lwyddiant cynyddol y sector Dysgu Cymraeg.
Fel y corff arbenigol sy’n arwain y sector Dysgu Cymraeg ledled Cymru, mae’r Ganolfan yn falch o gefnogi’r wobr yma, sy’n anrhydeddu unigolion sydd wedi mwynhau dysgu Cymraeg ac wedi cyflawni’n eithriadol.
Bydd yr enillydd eleni – Lucy Cowley – yn gweithredu fel llysgennad i’r Ganolfan dros y 12 mis nesaf, gan rannu ei stori iaith bwerus ac ysbrydoli eraill i ddal ati neu i gymryd y cam cyntaf tuag at ddysgu’r iaith.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Llongyfarchiadau enfawr i Lucy ar ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn. Mae wedi bod yn fraint i wylio’r seremoni yn y pafiliwn ac i glywed am brofiadau cadarnhaol pobl sy’n dysgu’r Gymraeg, a’u gweld yn dod yn siaradwyr newydd.
“Edrychwn ymlaen at gydweithio ag Lucy dros y flwyddyn nesaf, i ddenu mwy fyth o bobl at y Gymraeg a dangos sut mae’r Gymraeg yn agor y drws ar gyfleoedd cyffrous sy’n cyfoethogi bywydau.”
Mae’r Ganolfan wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n dysgu Cymraeg. Yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf, cwblhaodd 18,330 o bobl gyrsiau’r Ganolfan yn ystod 2023–2024, y nifer uchaf erioed a chynnydd o 45% o gymharu â’r data cyntaf a gyhoeddwyd ar gyfer 2017-2018, sef 12,700.
Gan weithredu model dysgu llwyddiannus sy’n unol â’r CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredinol Ewrop ar gyfer Ieithoedd), mae’r Ganolfan yn cynnig llwybr clir ac effeithiol i unrhyw un sy’n awyddus i ddod yn siaradwr Cymraeg. Mae hefyd yn darparu rhaglenni arbenigol i wahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys teuluoedd, pobl ifanc, gweithwyr yn y sector addysg, chwaraeon, a’r sector Iechyd a Gofal.
Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru