Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cefnogi Fiona Hughes, un o sêr cyfres ddiweddaraf The Traitors, i ailgydio yn ei Chymraeg, ar ôl iddi ddatgan bod dysgu’r iaith yn flaenoriaeth iddi ar ôl ymddeol.
Fel rhan o’r gefnogaeth, bydd un o diwtoriaid arbenigol Codi Hyder y Ganolfan yn cwrdd â Fiona yn wythnosol, er mwyn ymarfer y Gymraeg a’i helpu i adennill hyder i ddefnyddio’r iaith yn ei bywyd pob dydd.
Yn wreiddiol o Dreforys, Abertawe, aeth Fiona i Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, cyn symud ymlaen i ysgol gyfun Saesneg. Nid yw Fiona wedi cael llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ers hynny, ac mae bellach yn awyddus i ailafael yn y Gymraeg.
Mae’r Ganolfan yn cynnig ystod lawn o wasanaethau Dysgu Cymraeg ledled Cymru, gan gynnwys cyrsiau ar bum lefel dysgu a chefnogaeth Codi Hyder wedi’i theilwra i ateb gofynion siaradwyr Cymraeg sydd wedi colli hyder i ddefnyddio’r iaith.
Meddai Fiona Hughes, “Dw i’n caru The Traitors ac roedd ymddangos ar y sioe yn fraint. Ro’n i mor hapus i gynrychioli Abertawe a Chymru, a dw i’n teimlo’n gyffrous iawn nawr am y cyfle i gryfhau fy Nghymraeg, gyda help y Ganolfan.”
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Gwnaeth Fiona argraff fawr ar gynulleidfaoedd The Traitors, a ’dyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei chefnogi gyda’i Chymraeg.
“Mae’r Ganolfan yn cynnig hyfforddiant Dysgu Cymraeg i gefnogi pawb, lle bynnag maen nhw ar eu taith iaith, gyda darpariaeth hyblyg a chefnogol, sydd ar gael wyneb-yn-wyneb ac yn rhithiol.”